Bydd CND yn dathlu hanner can mlwyddiant gorymdaith gyntaf y mudiad i’r Sefydliad Arfau Atomig yn Aldermaston - calon rhaglen arfau niwclear Prydain - a bydd Dirprwy Lywydd a Chadeirydd CND Cymru Jill Evans ASE ymhlith y siaradwyr yn y gwrthdystiad.
Dywedodd Jill Evans, sydd wedi bod yn ymgyrchydd dros heddwch ar hyd ei hoes:
“Bumdeg mlynedd yn ôl, tynnodd gorymdaith Aldermaston sylw’r cyhoedd at beryglon arfau niwclear. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach ac rydym ‘nôl yma. Ynlle ymdrechu i ddiarfogi, yn unol ag ymrwymiadau cytundeb rhyngwladol, mae llywodraeth Prydain yn datblygu cenhedlaeth newydd o arfau niwclear.
"Bydd siarad yn Aldermaston - bumdeg mlynedd wedi i aelodau cyntaf yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND) brotestio yma - yn ysbrydoliaeth i fi. Mae’n bryd i ni ail-gadarnhau ein hymrwymiad i atal y bom. Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sydd yn ein hwynebu heddiw a gall arfau niwclear wneud dim i’n hamddiffyn rhag hynny. Ynlle hynny maen nhw’n gwneud y byd yn lle llawer mwy peryglus.
"Byddaf yn ail gadarnhau ymrwymiad diysgog Plaid Cymru i ddiarfogi niwclear a gwrthwynebiad y blaid i’r arfau o ddinistr enfawr yma sydd yn anghyfreithlon ac yn anfoesol."
Nodiadau:
Mae Jill Evans ar gael i’w chyfweld drwy gyfrwng y rhifau isod. Fel ASE, mae hi’n cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.
Daw’r bom i ben yma: Amgylchynwch safle Aldermaston: Llun y Pasg, Mawrth 24, 2008, am 12:00pm. Am fwy o fanylion
ewch i : www.cnduk.org/aldermaston/index.html.