• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE yn dychwelyd i’r gwarchae niwclear
    Medi 28ain 2007

    Arestiwyd Dirprwy Lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ym mis Ionawr eleni wrth glwydi’r Safle Arfau Niwclear Prydeinig yn Faslane yn yr Alban. Bydd Jill Evans yn dychwelyd i’r safle ar ddydd Llun, Hydref 1, gyda nifer o bobl eraill er mwyn cofnodi blwyddyn o warchae di-drais o’r safle llongau tanfor niwclear, sydd 30 milltir i’r gorllewin o Glasgow.

    Wrth siarad heddiw, dywedodd Jill Evans:

    "Fe ddywedais i ym mis Ionawr ein bod ni yma i ail-gadarnhau ymrwymiad Plaid Cymru i ddiarfogi niwclear a gwrthwynebiad y blaid i’r arfau yma o ddinistr enfawr. Mae’r ymrwymiad yma mor gryf ag erioed, ac unwaith eto rwy’n cymryd rhan yn y gwarchae i adlewyrchu safbwyntiau mwyafrif pobl Cymru sydd yn gwrthwynebu ac sydd wedi protestio yn erbyn Trident.

    "Mae tua mil o bobl wedi cael eu harestio yn ystod deuddeg mis y brotest, gan gynnwys pedwardeg o Gymru. Rwy’n llongyfarch y grwpiau a’r unigolion niferus sydd wedi cymryd rhan yng ngwarchae Faslane 365 i wneud y pwynt fod arfau niwclear yn gwneud y byd yn lle mwy peryglus. Ni fydd yr arfau yma yn ein hamddiffyn o gynhesu byd-eang nac ymosodiadau gan derfysgwyr."

    NODIADAU I OLYGYDDION:

    Mae Jill Evans ar gael am gyfweliad ar y rhifau ffôn ar ddiwedd y datganiad hwn. Hi yw Cadeirydd CND Cymru. Fel ASE mae hi’n cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.

    Mae 128 grwp gwahanol eisoes wedi cymryd rhan yn ymgyrch Faslane 365, a ddechreuodd ar Hydref 1, 2006, ac fe arestiwyd tua 1,000 o bobl. Mae pobl o Gymru ymhlith y rhai a gymerodd rhan. Ym mis Tachwedd, arestiwyd 17 o bobl o Gymru pan roddodd grwp amrywiol o bobl gan gynnwys disgyblion ysgol, gweithwyr cymdeithasol, pensiynwyr, darlithwyr ac ymgynghorwyr y clwydi yn Faslane o dan warchae.

    Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r pwnc, ewch i www.faslane365.org.

    Ffoto: Jill Evans