Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi canmol Prifysgol Morgannwg am sefydlu Canolfan Mentergarwch i hyrwyddo a meithrin mentergarwch yng Nghymru. Dywedodd Ms Evans fod gan Plaid Cymru weledigaeth am economi o’r safon uchaf i Gymru a bod mentrau i hyrwyddo mentergarwch, yn enwedig ymhlith menywod, yn amhrisiadwy.
Mae’r llun yn dangos Jill Evans ASE yn y lansiad ym Mrwsel
Dywedodd yr ASE Plaid Cymru ei bod yn gobeithio bydd y Ganolfan yn helpu i ddatblygu cysylltiadau busnes ymhellach rhwng Cymru a gwledydd Ewropeaidd eraill, wrth gefnogi gwaith llywodraeth Cymru’n Un wrth helpu busnesau Cymreig ddod drwy’r argyfwng economaidd.
Gwnaed y sylwadau gan Ms Evans yn ystod lansiad Brwsel o Ganolfan Mentergarwch Prifysgol Morgannwg, a gynhaliwyd yn Nhy Cymru ym Mrwsel ar Ddydd Mercher, Mehefin 17.
Wrth siarad yn ystod y lansiad, dywedodd yr ASE Plaid Cymru, a ail-etholwyd yn ddiweddar:
"Yn ystod yr amseroedd heriol economaidd yma mae’n bwysicach nag erioed i hybu diwylliant o fentergarwch, ac yn enwedig i ddatblygu medrau a fframwaith bolisi fydd yn cynnal busnesau Cymreig -yn enwedig mentrau bach neu ganolig eu maint - ‘SMEs’ - drwy’r dirwasgiad. Rwy’n cymeradwyo Prifysgol Morgannwg am eu dull arloesol o ddysgu ac ymchwilio, ac am gydnabod pwysigrwydd adeiladu cysylltiadau economaidd ac addysgiadol cryfach rhwng Cymru a gweddill Ewrop.
"Mae Plaid Cymru’n credu gallwn ddatblygu economi arloesol o’r safon uchaf yng Nghymru ac mae projectau fel y Ganolfan Mentergarwch yn cyfrannu’n fawr tuag at weledigaeth o’r fath yma.
"Bu croeso cynnes i gronfa newydd llywodraeth Cymru’n Un ar gyfer busnesau bach, ac roedd yn bleser gen i weld bod Plaid Cymru wrth fod mewn llywodraeth, wedi gallu rhoi’r gronfa JEREMIE (Joint European Resources for Micro to Medium Enterprises) ar waith yng Nghymru. Bydd y gronfa yma o £150m yn cefnogi ehangiad dros 800 o fusnesau a chreu hyd at 15,000 o swyddi ar hyd Cymru. Mae hwn yn newyddion da i fentrwyr tebyg i’r rhai fydd yn cael cefnogaeth gan Brifysgol Morgannwg.
"Fel aelod o bwyllgor Hawliau Menywod Senedd Ewrop, mae’n bleser gen i weld fod y Ganolfan Mentergarwch wedi addo i arwain y ffordd ar fentergarwch menywod. Ar hyn o bryd, mae menywod yn parhau i fod wedi eu tangynrychioli ar lefel uwch reolwyr ac fel perchnogion eu busnesau eu hunain. Ond pan fydd menywod yn cael y cyfleoedd i wneud cynnydd mewn busnes, yn aml, nhw yw’r rhai mwyaf cynhyrchiol a’r rhai mwyaf llwyddiannus yn eu meysydd. Mae hyn yn rhywbeth dylem ei annog o hyd, ond mae hwn yn arbennig o berthnasol wrth i ni weithio tuag at sicrhau fod economi Cymru’n dod allan o’r dirwasgiad yn gryfach a mwy cadarn.
"Fel ASE sydd yn cynrychioli Cymru, hoffwn longyfarch Prifysgol Cymru eto ar y Ganolfan Mentergarwch ac rwy’n addo i gefnogi ei datblygiad yn llawn. Gobeithiaf bydd seminar heddiw yn arwain at drafodaeth bellach ac yn ddechrau stori o lwyddiant ar gyfer y Ganolfan."
Diwedd/End.