Llywydd newydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE fydd yn cadeirio cynhadledd Rhanbarthau di-GMO eleni, sydd yn cael ei gynnal yn Senedd Ewrop ym Mrwsel heddiw, Dydd Iau, Medi 16, 2010.
Yn yr hyn sydd yn flwyddyn dyngedfennol ar gyfer dyfodol GMOs yn Ewrop, bydd dros 250 o gynrychiolwyr o 37 o wledydd yn dod i glywed y Comisiynydd Dalli (Comisiynydd Ewrop dros Bolisi Iechyd a Defnyddio) yn siarad ar gynigion diweddara’r Comisiwn Ewropeaidd.
Gyda’r farn yngl?n â chynhyrchu cnydau GM wedi’i bolareiddio, mae llywodraethau’r 27 aelod wladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd wedi methu â chymeradwyo rhagor o gnydau GM.
Mewn ymdrech i godi’r gwaharddiad mae’r Comisiwn wedi cynnig rhoi’r penderfyniad yn ôl yn nwylo aelod wladwriaethau unigol yngl?n â p’un a ydyn nhw am dyfu GMOs ai peidio. Ond yn gyfnewid am hynny, byddent yn rhoi’r awdurdod ar lefel Undeb Ewropeaidd ar gyfer mwy o amrywiaethau GM. Gallai llywodraethau unigol benderfynu pa gnydau GM, os o gwbl, y byddent yn eu caniatáu. Byddai hyn yn arwain i rai gwladwriaethau yn cynyddu eu cynhyrchiad o gnydau GMO ac eraill yn gweithredu gwaharddiad llwyr.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Dylai’r gwaharddiad ar gymeradwyo cnydau GMO newydd aros hyd nes y cynhelir asesiadau risg cywir i sicrhau nad yw GMOs yn cynnig unrhyw berygl i iechyd dynol a’r amgylchedd.
“Mae argymhellion y Comisiwn yn beryglus gan y byddai gwladwriaethau sydd o blaid GM yn gallu tyfu cnydau GM a byddai halogiad yn digwydd yn fwy aml. Byddai hadau GM yn cylchredeg yn rhydd o fewn marchnad fewnol Ewrop. Byddai hyn i gyd yn achosi anawsterau penodol i ffermwyr organig a chonfensiynol.
“Pe bai’r cynigion yn cael eu gweithredu, yna byddai ganddyn nhw oblygiadau amlwg i ni yng Nghymru. Mae gweinidog llywodraeth y DU wedi ymrwymo’r DU i fod y mwyaf o blaid GM, a hynny er i ‘r Cynulliad bleidleisio dros Gymru di-GM a chanddi reolau llym mewn lle. Rwy’ yn erbyn yr argymhellion hyn ond os cânt eu cymeradwyo fe hoffwn i weld bod dymuniadau democrataidd pobl Cymru yn cael eu parchu a llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad ar ein rhan.”
Diwedd.
Nodiadau
1. Ar Ddydd Iau, Medi 16, 9:30am, bydd Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd, John Dalli yn amddiffyn ei “bolisi newydd” ar Organebau wedi’u haddasu’n Enetig ar ddechrau chweched Cynhadledd Ewropeaidd y Rhanbarthau di-GM yn Senedd Ewrop, Brwsel.
2. Gellir dod o hyd i’r rhaglen lawn ar gyfer y gynhadledd ar: www.gmo-free-regions.org/conference2010.
Diwedd.