• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Perygl i Gymru ar gnydau GM
    Gorffennaf 13 2010

    Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd argymhellion heddiw i dorri’r anghytundeb a fu ers degawd ar organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMOs) yn Ewrop. Mae sawl gwlad wedi gwahardd cnydau GM yn llwyr. Mae’r Comisiwn wedi ceisio gwyrdroi’r gwaharddiadau ond ni allai gael mwyafrif o aelod wladwriaethau i’w gefnogi. Er mwyn canfod datrysiad i’r broblem, mae’r Comisiwn nawr yn cynnig taro bargen.

    Wrth siarad ym Mhwyllgor yr Amgylchedd lle gwnaeth y Comisiynydd Dalli’r cyhoeddiad, dywedodd Jill Evans, ASE Plaid Cymru, ac ymgyrchydd gwrth GM ers tro byd :

    "Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig rhoi’r hawl i lywodraethau aelod wladwriaethau i benderfynu p’un ai i ganiatáu cnydau GM i gael eu tyfu neu beidio. Yn gyfnewid am hyn, byddai gweinidogion y llywodraethau yn rhoi’r gorau i wrthod caniatâd i dyfu mwy o amrywiaethau GM yn Ewrop.

    "Byddai hyn yn golygu fod gwledydd sydd o blaid GM fel Prydain, Sbaen a’r Iseldiroedd yn rhydd i dyfu mwy o gnydau GMOs, tra byddai eraill yn gallu eu gwahardd."

    Parhaodd Jill Evans:

    “Dyw cynnig mwy o bwerau i lywodraethau aelod wladwriaethau i benderfynu p’un a ydynt am dyfu GMOs yn gyfnewid am ganiatáu mwy o amrywiaethau GM yn Ewrop ddim yn ateb i hyn.

    “Os aiff y cynigion yma yn eu blaenau, bydd yn agor Cymru ac Ewrop i GMOs. O fewn y farchnad fewnol bydd hadau a chynnyrch GM yn cylchredeg yn rhydd. Dyw llygredd ddim yn cydnabod ffiniau. Cyhoeddwyd negeseuon allweddol ynglyn â GMO’s a’u cydfodolaeth gyda chnydau eraill dair wythnos yn unig yn ôl gan Weinidog Materion Gwladol Cymru, Elin Jones. Unwaith eto, cafwyd cefnogaeth gref dros wneud Cymru gyfan yn barth rhydd o GM.

    "Fodd bynnag, mae gweinidog newydd llywodraeth y DU wedi ymrwymo’r DU i fod yn un o’r llywodraethau mwyaf pleidiol dros GM erioed. Pe bai’r penderfyniad ar GMOs yn cael ei adael i’r DU, mae angen ymrwymiad arnom ni y bydd dymuniadau Cymru mewn perthynas â’r mater yma yn cael eu parchu. Byddaf yn codi’r mater yma gyda’r Comisiynydd.

    "Hyd yn oed os yw hynny ar ddod, rhaid gweithredu mesurau er mwyn osgoi halogiad, yn enwedig i gnydau organig. Rhaid i reolau atebolrwydd llym sicrhau bod defnyddwyr y GMOs yn talu am holl gostau niwed a phrofi.

    "Ar lefel Ewropeaidd dylid fod gwaharddiad ar unrhyw argymhellion GMO newydd hyd nes y cynhelir asesiadau risg cywir i sicrhau nad yw GMOs yn peri bygythiad i iechyd pobl a’r amgylchedd."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans