• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid Cymru yn beirniadu penderfyniad GM
    Mai 7fed 2008

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi beirniadu Comisiwn Ewrop unwaith eto am ohirio penderfyniad ar wahardd rhywogaethau newydd o India-corn sydd wedi’u haddasu’n enetig.

    Daw’r ddadl yn ystod yr un wythnos i ymgyrchwyr gwrth GM yng Nghymru feirniadu Prif Ymgynghorydd Gwyddonol y Cynulliad am wneud sylwadau oedd yn cefnogi organebau GM mewn cyfweliad i bapur Dydd Sul. Mae gan y Cynulliad bolisi o gadw Cymru’n rhydd o organebau GM.

    Ystyriwyd y ceisiadau ar gyfer amaethu rhywogaethau o India-corn GM sydd yn ymwrthol i bryfed gan y Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel ac roedd ymgyrchwyr gwrth GM yn obeithiol o ennill gwaharddiad. Ond ynlle hynny, gohiriwyd y penderfyniad gan y Comisiwn unwaith eto, gan gyfeirio’r pwnc yn ôl i’r Awdurdod Ewropeaidd ar ddiogelwch Bwyd.

    Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

    "O ystyried mor eang a chryf yw’r gwrthwynebiad cyhoeddus i organebau GM, rwy’n siomedig fod Comisiwn Ewrop wedi methu a gweithredu unwaith eto. Mae angen iddyn nhw wneud safiad cadarn ar hyn a gwahardd awdurdodi organebau GM newydd yn hytrach nac osgoi cymryd cyfrifoldeb.

    "Yng Nghymru, mae’r Gweinidog Materion Cefn Gwlad, Elin Jones, wedi cadarnhau bydd y llywodraeth yn dilyn y trywydd mwyaf cyfyngol posib ar gnydau GM. Dylai’r Comisiwn fabwysiadu’r egwyddor ragofalus hwn o ddifrif a’i weithredu’n iawn..

    "Dylai’r ansicrwydd ymhlith Comisiynwyr a phryder nifer o lywodraethau ynglyn â’r asesiad risg ar gyfer cynnyrch GM fod yn ddigon i gyfiawnhau gwaharddiad."

    Diwedd/End.

    Ffoto: Jill Evans