• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE yn croesawu ‘crwydro’ rhatach
    Ebrill 23ain 2009

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu rheolau Ewropeaidd newydd fydd yn lleihau’r gost o ddefnyddio ffonau teithiol dramor yr haf yma. Pleidleisiodd Ms Evans o blaid y mesurau yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg.

    Golyga’r rheolau newydd bydd cap o 10 ceiniog o fis Gorffennaf ar y gost o ddanfon neges testun o dramor, tra bydd galwad ffôn yn costio dim mwy na 40c y funud. Bydd cap o 17c y funud ar dderbyn galwadau ffôn. Bydd cap hefyd ar bris lawrlwytho data drwy gyfrwng ffôn teithiol o dramor, wedi ei osod ar tua 90c y megabeit o fis Gorffennaf. Dydy’r ffigurau yma ddim yn cynnwys TAW.

    Ceir darpariaeth newydd hefyd er mwyn atal ‘sioc biliau’, fydd yn caniatáu i gwsmeriaid ddewis terfyn uchafswm ariannol am grwydro dramor gyda ffôn, ac fe fydd hyn yn helpu i osgoi sioc gas pan fyddant yn derbyn eu bil nesaf.

    Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Jill Evans:

    "Mae hyn yn enghraifft o Senedd Ewrop yn gwneud gwahaniaeth ymarferol. Mae gan y rhan fwyaf o bobl heddiw ffonau teithiol ac maen nhw’n dymuno eu defnyddio fwyaf pan fyddant oddi cartref".

    "Ers y cytunwyd ar roi capiau ar brisoedd galwadau llais yn 2007, mae’r traffig wedi cynyddu’n sylweddol. Felly mae’n ymddangos nad oedd sail i’r holl godi bwganod a wnaed gan weithredwyr ynglyn â cholli arian.

    "Mae’r capiau yma ar brisoedd, a’r gallu i osod terfyn ar alwadau yn golygu mai’r defnyddwyr ac nid y cwmnïau mawrion fydd yn rheoli faint fyddan nhw’n ei wario."

    Diwedd.

    Nodyn:

    Mae’r llun yn dangos Jill Evans ASE gyda Chlwb Ffermwyr Cymru ym Mrwsel.

    Ffoto: Jill Evans