• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Jill Evans ASE yn croesawu cyhoeddiad ar reoleiddio EID
    Rhagfyr 9fed 2011

    Mae Llywydd Plaid Cymru yn dweud bydd y penderfyniad yn arbed miliynau o bunnoedd i ffermwyr

    Croesawodd Jill Evans ASE benderfyniad heddiw fyddai’n golygu oedi am dair blynedd cyn cyflwyno’r rheolau ar dagio electronig i ddefaid h?n. Roedd y gofyniad i gofnodi symudiadau unigol anifeiliaid a anwyd cyn Rhagfyr 31, 2009, fod dod i rym ar y cyntaf o Ionawr, 2012, ychydig dros dair wythnos o nawr. Byddai hyn wedi costio miliynau o bunnoedd i’r diwydiant defaid yng Nghymru.

    Dywedodd Ms Evans,

    “Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar y mater hwn ers nifer o flynyddoedd, ac rwy’n bles iawn gyda’r cyhoeddiad yma. Fe ges i gyfarfod buddiol iawn gyda’r Comisiynydd Ewropeaidd sy’n gyfrifol am y rheolau hyn fis diwethaf ac fe ddywedodd wrthyf ei fod yn cytuno gyda chael gohiriad. Mae ffermwyr Cymru yn wynebu problemau unigryw wrth geisio addasu i’r ddeddfwriaeth newydd. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r undebau ffermio yng Nghymru ers sawl blwyddyn, a bűm yn lobio’r comisiwn ar eu rhan.

    "Rwy’n falch bod pwyllgor Ewrop ar y Gadwyn Fwyd ac Iechyd Anifeiliaid (SCoFCAH) wedi defnyddio synnwyr cyffredin wrth edrych ar y mater yma. Bydd y penderfyniad i ohirio gweithredu’r rheol hon am dair blynedd yn golygu byddai’r mwyafrif llethol o ddefaid fyddai’n debygol o fod wedi cael eu heffeithio, wedi cael eu lladd erbyn hynny ta beth."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans