Llwydodd Jill Evans ASE heddiw i sicrhau addewid gan Gomisiwn Ewrop i ystyried adolygiad o ddeddfwriaeth ddadleuol ar dagio electronig i ddefaid (EID). Ers cyflwyno deddfwriaeth EID drwy orfodaeth yn 2010, mae ffermwyr Cymru wedi dangos dro ar ôl tro fod yna broblemau ymarferol yn bodoli a bod angen mwy o hyblygrwydd.
Dywedodd Jill Evans,
"Mae ffermwyr Cymreig wedi gwneud pob ymdrech, ac wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd, er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth UE hwn, ond y ffaith yw y bydd hi o hyd yn amhosibl i dagio a chaw cofnod o bob dafad mewn praidd, yn enwedig pan fyddan nhw’n cael eu ffarmio i fyny’r bryniau a’r mynyddoedd. Bydd defaid yn mynd ar goll. Yn ychwanegol i hyn mae’r ffaith nad yw’r dechnoleg gyfredol yn gallu rhoi canlyniad eto sydd 100% yn ddibynadwy.”
"Mae nifer o fy nghyd aelodau yn clywed yr un peth gan eu hetholaethwyr sydd yn ffermio ac felly ches i ddim mo fy synnu pan ymatebodd 14 ASE i fy syniad i gwrdd â’r Comisiynydd sy’n gyfrifol er mwyn trafod ffordd ymlaen. Rwy’n credu iddo fod yn drafodaeth addysgiadol ac mae’n bleser gen i gyhoeddi bod y Comisiynydd Dalli wedi dweud wrthym ni y bydd yn ystyried adolygiad o’r ddeddfwriaeth i adnabod y problemau.”
Mae’n achos o bryder i ffermwyr hefyd y bydd rhaid tagio defaid h?n nad oedd yn rhan o’r ddeddfwriaeth flaenorol o 2012. Codwyd y mater yma hefyd gan Ms Evans yn y cyfarfod.
Ychwanegodd,
"Roedd y Comisiynydd fel pe bai’n deall ein pryderon yngl?n â thagio defaid h?n yn dod yn orfodol ac rwy’n credu na fyddai’n gwrthwynebu ymestyn y dyddiad gweithredu hwn."
"Byddaf yn ceisio nawr i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru i ymwneud mwy â’r mater hwn a lobio’r Comisiwn a Chyngor Ewrop i weithio hefyd dros gael estyniad i’r llinell derfyn hwn. Rwy’n gobeithio bydd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth yn gallu cael ei lais wedi ei glywed ar hwn gan y bydd yn cael goblygiadau difrifol ar gyfer ein diwydiant gwledig yng Nghymru."
Diwedd.