Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi cefnogaeth gan Bwyllgor Amaeth Senedd Ewrop i alw am gronfa miliynau o bunnoedd i helpu ffermwyr ymdopi â rhoi’r mesurau dadleuol ar dagio electronig ar ddefaid ar waith.
Mae Ms Evans wedi bod yn gweithio gydag undebau ffermwyr, Aelodau Seneddol Ewropeaidd a’r Gweinidog Dros Faterion Gwledig Cymru, Elin Jones i roi taw ar gynlluniau gan Gomisiwn Ewrop ar gyfer tagio electronig defaid neu EID. Dymuna’r ASE Plaid Cymru weld cynllun gwirfoddol yn unig.
Ond wrth i’r dyddiad ar gyfer tagio gorfodol nesáu, mae pryderon yn parhau i aros ynglyn â’r gefnogaeth fydd yn bodoli er mwyn helpu ffermwyr ymdopi â’r effaith ariannol.
Wrth siarad o Frwsel yn dilyn y bleidlais, dywedodd Ms Evans:
"Byddwn yn parhau â’n gwrthwynebiad i EID gorfodol, ond rwy am fod yn sicr fod yna gymorth ariannol digonol ar gael i ffermwyr os bydd Comisiwn Ewrop yn methu â newid y polisi.
"Mae’n bleser gen i fod cyd Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi cefnogi gwelliant yn galw am Gronfa Cymorth EID o €125,000,000 fyddai, pe bai’r gwaetha’n dod i’r gwaetha, yn helpu ffermwyr ymdopi â chostau gweithredu’r cynllun.
"Fy ngobaith yw na ddaw hi i hynny. Rydym wedi dangos yn eithaf clir pa mor drychinebus fyddai’r fath gynllun i ffermwyr defaid yng Nghymru. Byddai hyn yn ofnadwy o ddrud ac yn amhosibl i’w weithredu.
"Er gwaethaf hynny, mae’n rhaid i ni fod yn barod am y gwaethaf. Rwyf wedi rhoi gwybod i’r Gweinidog Dros Faterion Gwledig er mwyn sicrhau bod ffermwyr Cymreig yn gallu cael mynediad at arian mewn argyfwng pe bai’r argyfwng yma yn cael cefnogaeth gan y senedd lawn. Yn y cyfamser byddaf yn parhau i ymgyrchu dros oedi’r cynlluniau, os nad eu sgrapio’n llwyr."
Diwedd.