Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu grwp o ymwelwyr i Senedd Ewrop ym Mrwsel o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru.
Cafodd y grwp o ddau ddeg un o ffermwyr ifainc oedd yn dod o bob rhan o Gymru eu tywys ar hyd y Senedd. Fe gymeron nhw ran hefyd mewn sesiwn holi ac ateb gyda Ms Evans yng ngaleri’r ymwelwyr i Senedd Ewrop.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd yr ASE Plaid Cymru, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop, fod diddordeb y grwp mewn materion Ewropeaidd wedi creu argraff ddofn arni:
"Roeddwn yn falch iawn fy mod wedi gallu croesawu’r bobl ifanc yma o Gymru i Senedd Ewrop. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb brwd mewn materion Ewropeaidd, a does dim syndod, pan fod gan yr Undeb Ewropeaidd gymaint o effaith ar ein diwydiant amaeth. Mae’n bwysig i annog a hybu diddordeb yng ngwaith yr Undeb Ewropeaidd, wedi’r cyfan, gan fod cyfarwyddebau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd yn gynyddol effeithio ar ein bywydau."
Un pwnc allweddol a godwyd yn ystod y cyfarfod oedd yr effaith mae mewnforion cynyddol o Iwerddon yn ei gael ar y pris mae ffermwyr o Gymru’n cael am eu llaeth. Ychwanegodd Ms Evans:
"Mae llawer o bryder ar hyn o bryd fod mewnforion cynhyrchion llaeth o Iwerddon yn mynd i gynyddu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn nesaf. Mynegodd y ffermwyr ifanc bryder bydd hyn yn gorfodi gostyngiad yn y pris fydd ffermwyr yn cael am litr o laeth.
Diwedd.
Nodyn:
Mae’r llun yn dangos Jill Evans ASE gyda Chlwb Ffermwyr Cymru ym Mrwsel.