• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cefnogaeth i Farchnadoedd Ffermwyr
    Mawrth 26ain 2009

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi croesawi’r gefnogaeth gan Senedd Ewrop dros hybu marchnadoedd ffermwyr. Roedd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio dros well cydlyniad rhwng polisi datblygu gwledig a pholisi cydlynu. Cynigodd Ms Evans welliant llwyddiannus yn galw am fwy o gymorth i farchnadoedd ffermwyr lleol yn ogystal ag eco dwristiaeth a chynlluniau i helpu caffaeliad bwyd lleol.

    Llun: Yn Hooton’s Homegrown mae Dylan Rees (Ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn ar gyfer San Steffan), Jill Evans ASE, a Rosalind Hooton o Hooton’s Homegrown.

    Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Ms Evans:

    "Rwy’n gobeithio bydd y comisiwn yn cydweithio ac yn dod â’r diwygiadau ar gyfer 2013 ymlaen fydd yn cynyddu’r nawdd i ardaloedd gwledig a’i wneud yn fwy effeithiol.

    "Ar yr adeg yma o ddirwasgiad mae angen i ni gynllunio ar gyfer dyfodol cryfach a mwy cynaliadwy ac mae’r ardaloedd gwledig yn allweddol i hyn. Does dim modd i ni ddatrys yr argyfwng economaidd gan ddefnyddio’r un hen bolisïau a’i creodd hi yn y lle cyntaf. Mae angen i ni adeiladu economi gwell a gwyrddach. Cefnogi bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol yw un elfen o hyn.

    "Rydym yn cynhyrchu bwyd o ansawdd ardderchog yng Nghymru. Gwelais hyn drosof i fy hun yr wythnos ddiwethaf pan ymwelais â Hooton's Homegrown ym Mrynsiencyn (Ynys Môn) lle maen nhw’n cynhyrchu a gwerthu cig, ffrwythau, llysiau, sudd ffrwythau, cacennau a jam. Mae marchnadoedd ffermwyr lleol eisoes yn llwyddiannus mewn nifer o ardaloedd ac rwy’n cymryd pob cyfle i bwysleisio pa mor bwysig yw hy i’n heconomi."

    Diwedd.

    Darllena’r diwygiad llwyddianus gan Ms Evans fel hyn:

    development in rural areas requires greater attention and support for the preservation of the natural and farmed landscape, ecotourism, the production and use of renewable energy and local initiatives such as local food-quality procurement schemes and local farmers' markets;

    Mae Jill Evans ASE yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop

    Llun: Yn Hooton’s Homegrown mae Dylan Rees (Ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn ar gyfer San Steffan), Jill Evans ASE , a Rosalind Hooton o Hooton’s Homegrown www.hootonshomegrown.com.

    Ffoto: Jill Evans