Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn obeithiol bydd sustem gyfyngiant ar gyfer stoc trig a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor, yn achosi newid mewn cyfraith Ewropeaidd. Cynhaliodd Ms Evans gyflwyniad gan Brifysgol Cymru, Bangor yn Senedd Ewrop, ar sustem newydd arloesol maen nhw wedi ei ddyfeisio ar gyfer cyfyngiad diogel anifeiliaid marw ar safle’r fferm.
Mae’r cynnig wedi ennill cefnogaeth Elin Jones, sef y Gweinidog dros Faterion Gwledig, sydd wedi cwrdd â Chomisiwn Ewrop er mwyn rhoi’r achos o blaid cyfyngiad ar safle’r fferm.
Ers 2002, mae rheolau’r Undeb Ewropeaidd wedi gwahardd ffermwyr rhag claddu anifeiliaid marw ar eu tir. Mae Jill Evans wedi bod yn ymgyrchu dros newid y rheolau yma. Er ei bod yn cefnogi nod y Comisiwn y dylid cyflwyno rheolau er mwyn rhwystro a lleihau risg i iechyd anifeiliaid a phobl fyddai’n deillio o isgynnyrch anifeiliaid, dydy Jill ddim yn credu bod casglu’n ddi-oed o’r fferm o hyd yn angenrheidiol na’n gynaladwy.
Llun: Cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Bangor yn ymweld â Senedd Ewrop ym Mrwsel am gyflwyniad dan nawdd ASE Plaid Cymru Jill Evans i wneud yr achos dros ddelio â stoc trug ar y fferm. Yn y llun o'r chwith i'r dde y mae Huw Jones (Llywodraeth Cynulliad Cymru), Dr Prysor Williams (Prifysgol Bangor), Jill Evans ASE (Plaid), Yr Athro Davey Jones (Prifysgol Bangor) a Les Eckford (Ymgynghorydd Milfeddygol Llywodraeth Cynulliad Cymru).
Un maes o bryder arbennig yng Nghymru yw’r broses o gasglu stoc trig o ffermydd defaid ucheldir ac ardaloedd eraill sy’n llai hygyrch. Yn ogystal â chostau casglu uchel, mae casglu mewn gwahanol ardaloedd gwledig yn codi pryderon amgylcheddol ynglyn â defnyddio ynni a’r bygythiad i fioddiogelwch.
Cefnogwyd ei gwelliannau hi gan Bwyllgorau Amaeth ac Amgylchedd Senedd Ewrop i ganiatáu cyfyngiad ar-fferm. Caiff pleidlais ei gynnal ar y mater gan y Senedd lawn ym mis Ebrill.
Wrth siarad ar ôl y cyflwyniad gan Dr Prysor Williams, dyweodd Jill Evans ASE:
"Mae Llywodraeth Cymru’n Un a Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno achos cryf i’r Comisiwn ac i Senedd Ewrop. Mae gyda ni ddatrysiad a wnaed yng Nghymru i broblem sy’n effeithio ar ffermwyr Ewrop gyfan ac rwy’n obeithiol y llwyddwn i newid y rheolau.
"Mae’r bio-leihawr sydd yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn ddatrysiad amgylcheddol ac economaidd gynaladwy i’r broblem. Bydd llwyddiant ein cyd-weithio ar bob lefel yn golygu fod Cymru’n arwain ar hyn yn Ewrop."
Cliciwch
YMA am ffilm ber o Jill Evans ASE yn siarad i Dr. Prysor Williams o Brifysgol Bangor, Cymru.
Diwedd.