ASE Plaid Cymru yn croesawi pleidlais i leddfu cyfyngiadau
Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawi pleidlais a gynhaliwyd ym Mhwyllgor Amaeth Senedd Ewrop er mwyn lleddfu cyfyngiadau Ewropeaidd a osodwyd ar ffermwyr sydd yn cael gwared â’u stoc syrthiedig. Cefnogodd y pwyllgor gyfres o welliannau a gyflwynwyd ar y cyd gan Ms Evans a’i chyd aelod o’r SNP, Alyn Smith.
Galwa’r gwelliannau ar Gomisiwn Ewrop i ddiwygio’i rheolau.
Er enghraifft, awdurdodau’r aelod wladwriaethau yn diffinio ardaloedd anghysbell, ac fe fyddai hyn yn golygu mwy o hyblygrwydd i ganiatáu llosgi ar safle ffermydd neu gladdu mewn rhai achosion.
Cafwyd cefnogaeth hefyd i gyfyngiad ar-fferm. Mae casglu stoc syrthiedig o ffermydd defaid ucheldir o bryder neilltuol i Gymru. Caiff llawer o’r sector defaid yng Nghymru ei ffermio’n eang mewn ucheldiroedd ac ardaloedd llai cyraeddadwy, ac mae hyn yn cyflwyno her sylweddol mewn perthynas â chasglu stoc syrthiedig. Yn ogystal â chostau casglu uchel, mae’r broses o gasglu mewn ardaloedd gwasgaredig, gwledig yn codi pryderon amgylcheddol dros y defnydd a wneir o ynni. Gallai cyfyngiad ar-fferm roi’r un amddiffyniad tra’n effeithio lawer yn llai ar yr amgylchedd.
Wrth siarad o Frwsel yn dilyn y bleidlais, dywedodd Ms Evans:
"Mae’r gwelliannau yma’n cryfhau ein hachos gyda Chomisiwn Ewrop. Mae Ffermwyr wedi dangos bod y cyfyngiadau a roddir ar gael gwared â stoc syrthiedig yn achosi problemau dychrynllyd a bod yna oblygiadau diogelwch hefyd. Gan fod y Comisiwn wrthi’n adolygu’r sefyllfa, dyma’r adeg i weithredu.
"Mae consensws eang yn bodoli o fewn y Pwyllgor Amaeth dros gael mwy o hyblygrwydd ac rwy’n hyderus bydd y neges yn cyrraedd y Comisiwn. Mae Gweinidog Materion Amaeth Plaid Cymru, Elin Jones, yn hollol gefnogol ac wedi bod i Frwsel i drafod hwn gyda Chomisiwn Ewrop ar ran ffermwyr Cymru.
"Mae hwn yn arwyddocaol iawn i Gymru oherwydd ein bod yn datblygu ffordd arloesol o ymdrin â stoc syrthiedig. Mae Prifysgol Bangor yn datblygu treuliwr da byw biolegol fyddai’n caniatáu i stoc gael ei storio’n ddiogel a’i brosesu ar y fferm cyn ei waredu. Rwyf wedi bod yn dadlau’r achos yma dros y dechnoleg newydd yn Senedd Ewrop.
"Mae hwn yn faes arall lle mae angen rheolau i sicrhau diogelwch i bobl ac anifeiliaid ac i amddiffyn yr amgylchedd ehangach, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn effeithiol ac ymarferol. Dyna’n union yw’r cynllun a ddatblygwyd yng Nghymru."
Diwedd.
NODIADAU
Ceir crynodeb o’r pleidleisio isod, sydd yn dangos rhai agweddau cadarnhaol
Ardaloedd Anghysbell a Stoc Syrthiedig
Caiff ardaloedd anghysbell eu diffinio gan awdurdod cymwys pob Aelod Wladwriaeth. Mae’r rhanddirymiad ar gyfer ardaloedd anghysbell (caniatáu llosgi neu gladdu stoc syrthiedig ar fferm) yn cael ei ehangu i feysydd "lle byddai baich anghymesur ariannol neu weinyddol yn cael ei osod drwy geisio cael mynediad". Yn achos dirymiad ar gyfer ffermydd sydd yn trin niferoedd bach o ABP, caiff y trothwy ei benderfynu gan yr Aelod Wladwriaeth. (Rhannau o welliannau 19, 32, 33, 35, a 36)
Cyfyngiad Dros-Dro Stoc Syrthiedig
Gall awdurdodau cymwys awdurdodi mesurau ar gyfer cyfyngiad dros dro anifeiliaid ar fferm mewn ffyrdd nad sydd yn effeithio ar iechyd dynol nac anifeiliaid. (Rhannau o Welliannau 67 a 69)
Glyserol a Photasiwm Sylffad
Gellir defnyddio cynhyrchion terfynol prosesu diogel biodanwydd heb gyfyngiadau pellach. (Rhannau Gwelliant 15)
Gwęr
Eglurhad nad yw ABP a ddefnyddir fel tanwydd yn dod o dan ddeddfwriaeth gwastraff ac ni ddylid ei drin felly. (Rhan o Welliant 44)
Planhigion Biodanwydd
Roedd ein holl welliannau datganiad sydd yn annog defnyddio biodanwydd yn llwyddiannus. Gwrthodiad llwyddiannus o Ddiwygiad 54, fyddai wedi gwneud hi’n ofynnol i bob planhigyn biodanwydd gael ei gymeradwyo nid ei restri’n unig.
Symud Eitemau Rhwng Tri Chategori ABP
Bydd awdurdodau cymwys yr Aelod Wladwriaeth yn gweithio gyda’r Comisiwn o fewn yr ystyriaeth honno, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.
(Rhan o Welliant 25,)
Bwyd Anifeiliaid Anwes
Eglurhad llwyddiannus mai dim ond deunydd ABP Categori 3 wedi’i brosesu y gellir ei fwydo i anifeiliaid anwes.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Llwyddwyd i fewnosod cyfeiriadau i ymglymiad gan lywodraethau datganoledig is-genedlaethol.