Bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn cwrdd a ffermwyr Ceredigion yr wythnos hon er mwyn son am y camau mae hi wedi eu cymryd yn Senedd Ewrop i wrthwynebu cyflwyno tagio electronig gorfodol i ddefaid (EID), ond bydd hi hefyd yn clywed gan ffermwyr ynglyn a materion a phryderon eraill. Bydd Penri James, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion gyda hi hefyd.
Croesawoddd Ms Evans ddirprwyaeth o ffermwyr i Frwsel ym mis Hydref i wneud yr achos yn erbyn tagio electronig gorfodol i ddefaid, pan roedd cynrychiolwyr yr undebau ffermio ym Mrwsel ar wahodddiad yr ASE Plaid Cymru io roi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop.
Mae hi’n cymryd rhan mewn ymgyrch traws bleidiol yn Senedd Ewrop i wrthwynebu cynllun Comisiwn Ewrop ar gyfer tagio electronig gorfodol (EID) ar gyfer defaid a geifr.
Dywedodd Jill Evans:
"Wedi sgwrsio gyda ffermwyr ar draws Cymru a gweld y sefyllfa dros fy hun, rwyf wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd I ddanfon dirprwyaeth i Gymru i weld dros eu hunain pa mor anodd fyddai gweithredu cynllun o’r fath.
"Mae ffermwyr yn dweud wrthyf yn eitha’ clir eu bod yn gwrthwynebu’r cynllun yma ar gyfer tagio electronig gorfodol. Byddai’r cynllun yma yn rhy gostus i’w weithredu ac yn anymarferol ar gyfer y 41% o ffermydd defaid yng Nghymru
"Rwy’n croesawi’r cyfle yma I glywed barn ffermwyr Ceredigion ar hyn ac ar faterion eraill."
Diwedd.