I ddathlu ‘Wythnos Bwyta Cymru’ ym Mrwsel, mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn danfon pecyn o Bicau ar y Mân traddodiadol at bob Comisiynydd Ewropeaidd yn ogystal â Llywydd Senedd Ewrop.
Menter gan NFU Cymru i hybu cynnyrch traddodiadol Cymreig o ansawdd da ac i annog pobl i brynu mwy o fwyd a gynhyrchir yng Nghymru yw’r ‘Wythnos Bwyta Cymru’. Gobaith yr ASE yw bydd y fenter yn codi proffil cynnyrch o Gymru yn Ewrop.
Gwneir picau ar y mân drwy goginio blawd, menyn, wyau, siwgr a rhesins yn araf ar faen Cymreig traddodiadol.
Jill Evans ASE yn cyflwyno bocs o bicau ar y mân i Alyn Smith ASE, aelod o Bwyllgor Amaeth Senedd Ewrop i gofnodi ‘Wythnos Bwyta Cymru’ yn Strasbwrg.
Bydd y 27 Comisiynydd Ewropeaidd yn ogystal â Llywydd Senedd Ewrop yn cael detholiad arbennig o bicau ar y mân a wnaed gan Cacennau Maddocks o Gymru, sef diwydiant cartref a sefydlwyd yn Southgate, Gwyr, Cymru.
Dywedodd yr ASE Plaid Cymru:
"Rydym yn cynhyrchu dewis arbennig o gynnyrch ffres a thraddodiadol yng Nghymru ac mae’n bleser gen i hyrwyddo bwyd o Gymru yn Ewrop. Cynhyrchwyd y Picau ar y Mân yma gan Anthony a Pat Maddocks, sydd yn wr a gwraig, o’u busnes bach sydd yn cael ei redeg o’u cartref yn Southgate, Gwyr.
"Rwy’n siwr bydd y Comisiynwyr Ewropeaidd yn mwynhau eu Picau ar y Mân ac rwy’n gobeithio bydd hyn yn eu hannog nhw ac eraill i brynu mwy o gynnyrch o Gymru."
Nodyn - I gael mwy o wybodaeth ar y picau ar y mân gweler www.cakesfromwales.com Ewrop (tebyg i Gynnig Cynnar yn y Dydd yn San Steffan) yn galw am dagio defaid i fod yn wirfoddol yn hytrach nag yn orfodol ac maen nhw’n gofyn i Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill i’w lofnodi.
Diwedd.