Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi gofyn i Gomisiwn Ewrop i ddanfon dirprwyaeth ar frys i Gymru er mwyn gweld y problemau fyddai tagio electronig gorfodol ar ddefaid yn eu hachosi.
Croesawodd Ms Evans ddirprwyaeth o ffermwyr i Frwsel i roi’r achos yn erbyn tagio electronig gorfodol ar gyfer defaid. Ymunwyd yr ASE gan Dylan Rees, Ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, sydd yn aelod o Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru hefyd.
Roedd cynrychiolwyr o’r undebau amaeth ym Mrwsel o dan wahoddiad yr ASE Plaid Cymru er mwyn rhoi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Amaeth Senedd Ewrop.
Mae Ms Evans yn cymryd rhan mewn ymgyrch traws bleidiol i wrthwynebu cynllun Comisiwn Ewrop i orfodi tagio electronig (EID) ar gyfer defaid a geifr.
Llun: (chwith i’r dde) Dylan Rees, Darpar Ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, Jill Evans ASE (Plaid) ac Ed Bailey, Is Lywydd NFU Cymru, ym Mrwsel i gyflwyno’r achos yn erbyn tagio gorfodol ar gyfer defaid i Bwyllgor Amaeth Senedd Ewrop.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, meddai Jill Evans:
"Dylai Comisiwn Ewrop anfon dirprwyaeth i Gymru i weld dros eu hunain pa mor anymarferol fyddai ceisio gweithredu’r cynllun yma. Cyflwynodd cynrychiolwyr y Ffermwyr achos cryf iawn dros wneud y cynllun yn un gwirfoddol mewn gwledydd tebyg i Gymru. Does neb yn anghytuno bod angen bod yn olrheiniadwy ond mae’r cynllun sydd gyda ni ar hyn o bryd yn bodloni hynny.
"Es i ymweld ag un o’r cynlluniau peilot yng Nghymru yn ddiweddar ac mae’n glir nad yw’r dechnoleg yn barod ar gyfer y project hwn, yn ogystal â’r anawsterau ymarferol anferth o dagio electronig ar ffermydd mynyddig."
Ychwanegodd Dylan Rees, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn:
"Roeddwn wrth fy modd i weld cefnogaeth draws bleidiol dros wneud y ddeddfwriaeth EID yn wirfoddol yn hytrach na’n orfodol. Mae ffermwyr lleol yn Ynys Môn wedi dweud wrthyf i na ellir gweithredu’r ddeddfwriaeth yma a bod y gost yn waharddol. Fy mhryder i yw y bydd gweithredu’r ddeddfwriaeth yma yn arwain at ffermwyr defaid yn gadael y diwydiant yn y pen draw. O ganlyniad bydd dirywiad y diwydiant amaeth ar Ynys Món yn anochel."
Diwedd
NODIADAU
Mae Jill Evans ASE yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.
Mae ASE Plaid Cymru yn cyd-noddi Datganiad Ysgrifenedig yn Senedd Ewrop (tebyg i Gynnig Cynnar yn y Dydd yn San Steffan) yn galw am dagio defaid i fod yn wirfoddol yn hytrach nag yn orfodol ac maen nhw’n gofyn i Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill i’w lofnodi.