• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cymryd camau ynglyn â defaid a geifr yn derbyn croeso ond parhau mae’r frwydr yn erbyn tagio defaid
    Mehefin 25ain 2008

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi pleidlais yn Senedd Ewrop mae hi’n gobeithio fydd yn hwb bwysig i ffermio defaid a geifr yng Nghymru.

    Pleidleisiodd Aelodau o Senedd Ewrop i gymeradwyo argymhellion newydd sydd yn cael eu hystyried yn gynllun achub ar gyfer y sector sydd wedi bod yn dirywio ac wedi bod yn brwydro i gynnal adferiad ers dechrau clwy’r traed a’r genau yn 2001. Mae’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi cytuno ar gyfres o gynigion yr hoffent weld yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Amaeth yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cynnydd mewn cymorth ariannol i atal y dirywiad mewn cynhyrchu a mesurau newydd i gynyddu cymeriant.

    Yng Nghymru, mae’r nifer o ddefaid ac wyn wedi lleihau o bron i ddeuddeg miliwn yn 1999 i lai na naw a hanner miliwn yn 2006. Cadwodd bedwardeg un y cant o holl ffermydd Cymru ddefaid yn ystod 2006.

    Ynglyn a’r prif bwnc o dagio defaid, gwrthodwyd y sustem ‘optio i mewn’ yn y bleidlais olaf. Mae’r ASE Plaid Cymru yn gwrthwynebu tagio gorfodol i ddefaid.

    Dywedodd Jill Evans:

    "Mae ffermio defaid wedi bod yn wynebu amserau anodd ers nifer o flynyddoedd ac fe drawyd y diwydiant yn galed gan glwy’r traed a’r genau yn 2001.

    "Mae angen mesurau ariannol newydd yn enwedig er mwyn dod a’r dirywiad mewn cynhyrchu i ben ac mae’r hyn sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn hefyd yn cynnwys premiwm y pen ar gyfer defaid a thaliadau ychwanegol mewn rhai achosion.

    "Ond byddai argymhelliad y Comisiwn ar gyfer tagio gorfodol i ddefaid yn costio llawer o arian i’w weithredu.

    "Byddaf yn parhau i lobio’n galed ar ran ffermwyr Cymru i’w rwystro rhag mynd yn ei flaen."

    Diwedd

    Ffoto: Jill Evans