Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi’r cyhoeddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd bod gwaharddiad llwyr ar fewnforion cig eidion o Frasil wedi dod i rym. Bu Ms Evans yn ymgyrchu gydag aelodau eraill o Senedd Ewrop dros waharddiad llwyr oherwydd pryderon ynglyn â safonau iechyd anifeiliaid ym Mrasil.
Dywedodd Ms Evans:
"Er ei fod yn hwyr iawn yn dod, ceir croeso mawr i’r cyhoeddiad yma. Fi oedd un o’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd a dynnodd sylw at bryderon difrifol ynglyn â safonau iechyd a hylendid anifeiliaid ym Mrasil sawl mis yn ôl. Ni ddylid fod wedi gorfod aros cyhyd cyn dod â’r gwaharddiad i rym.
"Ond rwy’n hapus fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymryd camau o’r diwedd. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r undebau ffermio a grwpiau defnyddwyr i fynd â’r gwaith yn ei flaen. Rwy’n ddiolchgar fod ein hymdrechion wedi llwyddo.
"Mae’n newyddion da i ffermwyr a defnyddwyr. Daethom i fan lle na allwn gael hyder mwyach yn y cig eidion o Frasil a fewnforiwyd i’r Undeb Ewropeaidd. Roedd ffermwyr yn bryderus iawn ynglyn â’r effeithiau posib ar y diwydiant yn Ewrop.
"Rhaid i’r gwaharddiad yma barhau hyd nes yr ymdrinnir â’r holl bryderon ynglyn â safonau amaethyddiaeth Brasil."