Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi’r cynnydd newydd yn yr ymgyrch i wahardd allforion cig eidion o Frasil i’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn pryderon ynglyn â diogelwch.
Cefnogir Ms Evans gan yr undebau ffermio Cymreig ac mae’n gweithio gydag aelodau seneddol o fannau eraill yn Ewrop sydd yn rhannu ei phryderon ynglyn ag iechyd anifeiliaid a safonau hylendid gyda ffermio da byw ym Mrasil.
Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd wrth ei Haelodau Seneddol ddoe y byddai’n gosod cyfyngiadau newydd ar fewnforion cig eidion o Frasil i Ewrop. Byddai hyn yn cael yr effaith o gyfyngu ar yr hawl i allforio cig eidion i Ewrop i tua 300 o ffermydd yn unig allan o’r 10,000 sydd yn y wlad.
Wrth siarad heddiw, fe wnaeth Jill Evans y sylwadau canlynol:
"Rydym yn rhannu pryderon yr undebau ffermio ynglyn ag ansawdd a diogelwch y cig eidion sydd yn cael ei fewnforio i Ewrop o Frasil. Byddai hi’n annoeth i ganiatáu hyn i barhau a byddai ond yn tanseilio ein diwydiant da byw ein hunain a hyder defnyddwyr.
"Rwy’n bles fod Comisiwn Ewrop yn cymryd camau o’r diwedd. Does dim cweryl rhyngom ni a phobl Brasil; mae hyn yn gwestiwn pur o osod lleiafswm set gyffredin o safonau iechyd anifeiliaid a hylendid cyn caniatáu mynediad i farchnad Ewrop. Mae tystiolaeth gref yn bodoli sydd yn ein cymell i gredu nad ydynt yn cwrdd â’r safonau yma.
"Dylai’r cyfyngiadau newydd yma, fydd yn dod i rym ddechrau mis Chwefror helpu, ond rwy’n parhau i fod yn argyhoeddedig mai’r unig fesur effeithiol yng ngolau'r amgylchiadau presennol fyddai cael gwaharddiad llwyr hyd nes i’r materion ynghylch safonau hylendid gael eu datrys."
Nodyn - bydd cyfyngiadau newydd yn golygu mai dim ond cig eidion o ffermydd a archwiliwyd yn benodol gan awdurdodau Brasil ac sydd yn gallu tystio eu bod yn cwrdd â safonau’r Undeb Ewropeaidd, fydd yn gymwys i fewnforio i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Ionawr 31. Yn dilyn hyn, caiff profion achlysurol eu cynnal gan yr awdurdodau Ewropeaidd.