• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Rhaid ir bleidlais Brexit barchu bob rhan or DG
    3ydd o Chwefror 2016

    "Os yw Cymrun peidleisio i aros, ddyliwn ni ddim cael ein tynnu allan yn erbyn ein hewyllys ddemocrataidd" Jill Evans ASE

    Ni ddylai fod gan Lywodraeth y DG fandad i adael yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod pedair rhan gyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol yn pleidleisio i adael yn y refferendwm sydd ar ddigwydd, meddai ASE Plaid Cymru, Jill Evans mewn dadl yn Senedd Ewrop.

    Roedd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn trafod y cytundeb ailnegodi yn Strasbwrg gyda Llywydd Comisiwn Ewrop, Jean Claude Juncker wrth baratoi am yr Uwchgynhadledd Ewropeaidd Allweddol a gynhelir ar Chwefror 18 19.

    Dywedodd Jill Evans:

    "Rwyn cynrycholi Cymru ac mae aelodaeth or UE wedi bod yn fuddiol iawn yn nhermau economaidd, cymdeithasol a diwyllianol. Rwyf hefyd or farn fod yr UE wedi elwa o gael Cymru yn aelod ohoni.

    Mae yna lawer am yr UE yr hoffwn ei newid. Ond does dim modd cyflawni hynny oni bai ein bod yn gweithio gydan partneriaid Ewropeaidd i wellla polisi a wneud yr UE yn fwy effeithiol ac yn fwy ymatebol.

    "Rydym lawer yn fwy ar ein hennill yn gweithio dros newid o du fewn yn hytrach na bloeddio or ystlys.

    "Mae Llywodraeth y DG yn eiddgar i weld mwy o sybsidiaredd. Rwyf innau hefyd. Dyna pam fod yn rhaid ir newidiadau arfaethedig sydd iw trafod yn y cyngor gael eu hystyried yn llawn yn nhermau eu heffaith ar lywodraethau datganoledig y DG. Rhaid cynnal dadl lawn ar hyn yn cynnwys y llywodraethau i gyd ac rwyn dyfaru nad yw llywodraeth y DG wedi gwneud hynny hyd yn hyn. Maen fater o ddemocratiaeth a thegwch.

    "Mae fy mhlaid i, Plaid Cymru, wedi ymrwymo i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Credaf fod mwyafrif pobl Cymru eisiau hynny hefyd.

    "Ac os yw Cymrun pleidleisio i aros, yna, ddyliwn ni ddim cael ein tynnu allan yn erbyn ein hewyllys ddemocrataidd. Dyna pam wnaethon ni alw am fandad i adael yn unig os yw pedair rhan gyfansoddiadol y DG yn cytuno i wneud hynny.

    "Rwyf eisiau ymglymu pobl yn wirioneddol mewn dadl agored, onest, aeddfed, sydd yn seiliedig ar ffaith oherwydd ei fod yn drafodaeth fydd yn effeithio ar nifer o genhedloedd i ddod."

    Diwedd

    Nodiadau ir Golygydd

    Araith: yma.

    Araith ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=_R19EdJMMwY.

    Ffoto: Jill Evans