Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, wedi annog Senedd Ewrop heddiw i alw am foratoriwm ar ffracio hydrolig am nwy siâl mewn adroddiad sydd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd gan Bwyllgor Amgylchedd y Sefydliad.
Yn ystod trafodaeth ar yr adroddiad bore yma, codwyd pryderon gan y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Ewropeaidd ynglyn â’r peryglon sy’n gysylltiedig â nwy siâl a’r angen am fwy o astudiaeth a dadansoddiad o’r dechnoleg.
Daw’r ddadl wythnos wedi i adroddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gadarnhau bod y daeargrynfeydd a gafwyd ger Blackpool llynedd wedi cael eu hachosi gan ffracio hydrolig am nwy siâl. Mae Ms Evans yn galw ar unigolion i gyflwyno sylwadau ynglyn â’r adroddiad, gan ddatgan gallai’r canlyniad gael goblygiadau anferth ar gyfer pobl Cymru.
Dywedodd Jill Evans ASE,
"Mae’r adroddiad hwn gan lywodraeth y DU yn argymell y dylid caniatáu i ffracio barhau gan gyflwyno dwy weithdrefn newydd. Ni fydd y mesurau newydd hyn yn atal y daeargrynfeydd ac mae hyn yn bryder gwirioneddol ar gyfer yr amgylchedd a’r sawl sy’n byw yn agos i’r safleoedd hyn.
"Fis nesaf caiff ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal i’r cais cynllunio i gynnal profion drilio ym Mro Morgannwg, felly mae’r posibilrwydd o ffracio yn digwydd yng Nghymru yn bosibilrwydd go iawn. Mae’n bwysig bod pobl yn datgan eu barn."
Parhaodd Jill Evans,
"Nid nwy siâl yw’r ate bar gyfer gweledigaeth Ewrop o economi carbon isel. Yn hytrach, bydd hyn yn creu mwy o broblemau ar gyfer yr amgylchedd ac iechyd cyffredinol. Yn ychwanegol i hyn, mae echdynnu nwy siâl yn cynhyrchu mwy o allyriannau carbon na thanwydd ffosil confensiynol.
Bydd datblygu’r defnydd o nwy siâl yn tynnu ein sylw unwaith eto o’r gwir ynni amgen. Mae gyda ni ddigonedd o adnoddau naturiol yng Nghymru ac fe ddylwn ni eu ffrwyno er mwyn sicrhau bod gyda ni gyflenwad o ynni adnewyddol, gwyrdd. Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, dylwn fod yn gweithio tuag at ffurf o gynhyrchu ynni sy’n gynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar ac sy’n gadael tanwydd ffosil yn y gorffennol lle dylent aros."
Diwedd.
Nodiadau
1. Mae adroddiad llyworaeth y DG ar gael yma.
2. Dylid e-hebu sylwadau ynglyn â’r adrodiad at: led.comment@decc.gsi.gov.uk.
Diwedd.