Bydd Gweinidog Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas AC ac Aelod Seneddol Ewropeaidd a Dirprwy Lywydd Plaid Cymru, Jill Evans yn cwrdd â chynrychiolwyr yfory (Dydd Sadwrn) llywodraethau Ewropeaidd eraill er mwyn trafod newidiadau cyfansoddiadol a hefyd rôl polisi diwylliannol ac ieithyddol yn Adeilad y Cenhedloedd. Byddant yn mynychu Cyfarfod Brig EFA yng Nghaeredin ochr yn ochr â’u cymheiriaid o’r Alban a gweinidogion o lywodraethau Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandrys a Galicia.
Disgwylir i weinidogion wneud datganiad ar y cyd ynglyn â chydweithio diwylliannol ac ieithyddol rhwng y chwe llywodraeth.
Bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn cymryd rhan yn y drafodaeth ar y newidiadau cyfansoddiadol sydd yn digwydd yng Nghymru, Yr Alban, Fflandrys, Gwlad y Basg, Catalwnia a Galicia. Dywedodd hi:
"Mae’r digwyddiad yma yn symbolaidd o’r camau ymlaen a wnaed gan y Blaid a’n chwaer bleidiau mewn rhannau eraill o Ewrop. Bydd y cyfarfod yng Nghaeredin yn dod â gweinidogion llywodraethau chwe gwlad at ei gilydd ac mae’n arwydd o’r cynnydd sydd yn cael ei wneud wrth i ni gyflawni'r nod hirdymor a rannwn o annibyniaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd."
"Bydd Aelodau Seneddol yn San Steffan yn trafod ac yn pleidleisio cyn bo hir ar Gytundeb Diwygio Ewrop, fel y bydd seneddau ar draws Ewrop. Ond yng Nghaeredin y penwythnos yma, byddwn yn trafod realiti Ewrop a’r newidiadau sydd eisoes yn digwydd. Ar hyn o bryd, mae o leiaf tair o’n gwledydd yn mynd drwy’r broses o gynnal prif ymgynghoriadau fydd yn arwain at refferenda ar newidiadau cyfansoddiadol.
"Mae Confensiwn Cymru Cyfan yn nodi’r cam nesaf yn natblygiad gwleidyddol Cymru a byddwn yn annog unigolion, grwpiau cymunedol a chymdeithas sifil i gael dweud eu dweud ar ddyfodol Cymru. Dyma gyfnodau cyffrous a hanesyddol wrth i’n pleidiau a’n cenhedloedd weithio gyda’n gilydd i greu’r Ewrop newydd."
Nodiadau
Bydd cyfarfod Gweinidogaethol Caeredin yn cael ei gynnal yng nghanolfan, 'Our Dynamic Earth', Holyrood Road, Caeredin, fore Dydd Sadwrn yma, Ionawr 19, 2008 o 0945 a chynhelir cynhadledd i’r wasg a chyfle am luniau am 13h00.
Caiff y cyfarfod ei gadeirio gan Weinidog yr SNP dros Ddiwylliant, Linda Fabiani, ac fe’i trefnir gan Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA). Mae Plaid Cymru yn aelod ers amser maith o EFA, sefydliad sydd yn tynnu pleidiau gwleidyddol democrataidd ar draws Ewrop, sydd wedi ymrwymo i gyflawni gwell cynrychiolaeth ar gyfer eu cenhedloedd a’u rhanbarthau sydd heb fod yn wladwriaethau.
Bydd y gweinidogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod brig:
* Linda Fabiani (Gweinidog Materion Allanol, Ewrop a Diwylliant yr Alban)
* Joan Manel Tresserras (Gweinidog Diwylliant Catalwnia)
* Tontxu Campos (Gweinidog Addysg Gwlad y Basg)
* Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth Cymru)
* Bert Anciaux (Gweinidog Ieuenctid, Diwylliant, Chwaraeon a Threftadaeth Fflandrys)
* Ànxela Bugallo (Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Galicia)
Cadeirydd y drafodaeth ar bolisi diwylliannol ac ieithyddol yw Bernat Joan i Mari, o Gatalwnia.
Yn cymryd rhan yn y drafodaeth gyfansoddiadol mae:
Josep Lluis Carod Rovira (Llywydd yr ERC), Unai Ziarreta (Llywydd EA), Jill Evans ASE (Dirprwy Lywydd Plaid Cymru), Ian Hudghton (Llywydd yr SNP), Bettina Geysen (Llywydd Spirit), Anxo Quintana (Llywydd BNG)