• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • ASE Plaid Cymru’n galw am drethi banciau
    Mwyafrif llethol o ASEau yn pleidleisio o blaid cael treth trafod
    Mawrth 12fed 2010

    Pleidleisiodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans gyda’r mwyafrif llethol o Aelodau yn Senedd Ewrop am fath o dreth tobin ar drafodion ariannol. Mabwysiadodd Senedd Ewrop gynnig yn galw ar y Comisiwn i gymryd camau tuag at dreth trafodion ariannol.

    Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

    "Mae wedi bod yn bolisi ers amser maith gan y Blaid i godi treth ar drafodion ariannol ac i gefnogi ymgyrch 'Treth Robin Hood', a lansiwyd gan grwpiau fel Oxfam fis diwethaf. Credaf fod y polisi hwn hyd yn oed yn fwy pwysig o ystyried yr argyfwng ariannol. Gydag Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn danfon neges gref i Gomisiwn Ewrop, mae yna fomentwm clir yn bodoli i gymryd camau cadarn. Mae pobl Cymru yn disgwyl i gost yr argyfwng ariannol gael ei gwrdd gan y sawl a’i achosodd, ac nid gyda thoriadau mawrion i wasanaethau cyhoeddus."

    Mae’r cynnig a bleidleisiwyd drosti yn Senedd Ewrop yn galw ar Gomisiwn Ewrop i ddatblygu cynllun ar gyfer y fath dreth cyn cyfarfod brig yr G20 ym mis Mehefin. Gwna’r cynnig yn glir y dylai’r Undeb Ewropeaidd ymddwyn yn unochrog os na ellir cytuno ar dreth fyd-eang. Cred Ms Evans byddai treth fach o 0.5% yn rhoi miliynau ar gyfer ymladd newid hinsawdd, lleihau tlodi byd-eang a rhoi’r cyfle i economïau cenedlaethol i dalu dyledion yn llwyr.

    Ychwanegodd hithau;

    "Mae hapfasnach ddi-hid ac arferion bancio peryglus wedi rhoi baich diffyg ariannol anferth i bobl Cymru. Nid y teulu Cymreig na’r sector gyhoeddus a achosodd yr argyfwng presennol. O ystyried y rhesymau am y cwymp, mae hi nawr yn hanfodol bod arferion peryglus yn dod i ben a bod y dreth hon yn cael ei ddefnyddio i helpu adfer ein heconomi a helpu i drin y broblem fyd-eang ehangach o newid hinsawdd a thlodi. Dyw e ddim syndod fod y Ceidwadwyr yn ei wrthwynebu."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans