Bydd Côr Cefngwyr y Gweilch yn codi’r to yn Senedd Ewrop yr wythnos hon (Dydd Mawrth, Ebrill 13) gyda datganiadau o glasuron Cymreig fel Calon Lân, Cwm Rhondda a Hen Wlad Fy Nhadau.
Bydd y digwyddiad a gynhelir gan SE Plai Cymru Jill Evans – yn gyfle i hyrwyddo cerddoriaeth, diwylliant a chwaraeon Cymru yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd.
Ffurfiwyd y Côr llwyddianus Cymreig gan gefnogwyr Tîm Rygbi’r Gweilch er mwyn cystadlu mewn cystadleuaeth ar deledu Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Ers hynny, aethant o neth i nerth, gan ymddangos mewn nofer o gyngherddau a chystadleuthau ac yn codi arian ar gyfer elusennau. Mae’r côr hefyd ar fin rhoi perfformiad yn Antwerp ac yng Nghlwb Rygbi Leuven yn ystod ei daith.
Dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans:
"Rwyf wedi fy mhlesio’n arw fod Côr y Gweilch wedi derbyn fy ngwahoddiad i ganu yn Senedd Ewrop ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad. Gwelwn berfformiadau diwyllianol yn aml o bob man ar draws Ewrop yn adeilad y Senedd ond mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio rs i ni glywed cerddoriaeth Gymreig yn cael ei pherfformio.
"Bydd hwn yn gyfle da iawn i godi proffil Cymru yn Ewrop, ac i hyrwyddo ein cerdoriaeth, diwylliant a chwaraeon yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd."
Dywedodd Wynne Jones o Gôr Cefnogwyr y Gweilch:
"Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ganu yn Senedd Ewrop, yn enwedig mewn digwyddiad fydd yn dathlu diwylliant Cymru. Mae’r Côr hwn yn mynd o nerth i nerth a bydd mynd i Frwsel yn brofiad ardderchog arall i ni. Hoffem ddiolch i Jill Evans ASE am y gwahoddiad i ganu, a gobeithiwn bydd swn caneuon Cymru yn atseinio o amgylch y senedd."
Diwedd.
Nodiadau
Bydd y côr yn perfformio o 7:00pm ar ddydd Mawrth Ebrill 13, yn Espace Yehudi Menuin yn Senedd Ewrop ym Mrwsel. Bydd y rhaglen yn cynnwys:
Calon Lan; Rachie; Pan Fo'r Nos; Finlandia; La Wally (solo); Sanctus; Myfanwy; Ti a Dy Ddoniau; Ton Ton Ton; Cymru Fach (solo); Gwahoddiad; Cwm Rhondda; We'll Keep a Welcome; Hen Wlad Fy Nhadau.
Byddwch cystal â chlicio
yma er mwyn gweld poster y digwyddiad.
Diwedd.