• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE ac AC yn trafod cyswllt llong o Abertawe i Cork gyda'r Dirprwy Brif Weinidog
    Ionawr 28ain 2009

    Mae ASE ac Is-lywydd y Blaid, Jill Evans, ac AC Gorllewin De Cymru, Bethan Jenkins, wedi cwrdd a'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, i drafod y posibilrwydd o ail-agor y cyswllt llong rhwng Abertawe a Cork ar gyfer gwasanaethau cludo llwythi a theithwyr. Amcangyfrifr fod angen tua€3miliwn i sicrhau bod y cyswllt yma'n ail-agor ac mae adroddiadau diweddar wedi dangos bod yna long sydd yn agos at gael ei brynu.

    Wrth siarad o'r Senedd heddiw, dywedodd Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:

    “Gallai'r llong rhwng Abertawe a Cork fod yn hwb aruthrol i'r economi leol, yn arbennig yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol.

    "Roeddwn yn falch o gael cwrdd a'r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones er mwyn trafod y pwnc ymhellach a fy ngobaith diffuant yw bydd y camau cadarnhaol a gymerwyd yn ddiweddar yn cael eu gwireddu gydag ailagor y cyswllt yn y dyfodol agos.”

    Ychwanegodd Bethan Jenkins AC:

    “Amcangyfrifir bod tair miliwn o bobl yn arfer defnyddio'r fferi rhwng Abertawe a Cork pan oedd hi'n weithredol ac mae cynlluniau busnes presennol yn darogan byddai'r cyswllt yn gwneud elw ac yn dod a budd mawr i Cork ac Abertawe.

    "Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn bositif iawn ynglyn a'r rhagolwg o agor y cyswllt cyn bo hir ac mae wedi addo ymchwilio i'r mater ymhellach.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans