• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Diwrnod Hanesyddol yn Hanes defnyddio'r Iaith Gymraeg
    Mawrth 2il 2010

    Tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei chyfieithu yn Senedd Ewrop

    Mae'r iaith Gymraeg yn cymryd cam arall tuag at ddod yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd dydd Iau yma, wrth i gyfieithu drwy'r Gymraeg gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn Senedd Ewrop. Bydd ASE Plaid Cymru Jill Evans yn siarad Cymraeg gyda chyfieithiad mewn seminar ar bolisi iaith. Cred Ms Evans y gellir ystyried y cam hanesyddol yma i'r Gymraeg fel sbardyn tuag gydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd.

    Dywed Ms Evans:

    "Rwy'n hynod falch mai fi yw'r ASE cyntaf i siarad Cymraeg gyda chyfieithiad yn Senedd Ewrop. Mae hon yn ddiwrnod hanesyddol. Rydym wedi ymgyrchu'n galed dros gydnabyddiaeth i'n hieithoedd yn y Senedd ac mae hyn yn gam pellach ymlaen. Ar hyn o bryd mae gan y Gymraeg statws gyd-swyddogol wedi ymgyrch hir a chaled. Fy nod i bellach yw defnyddio'r diwrnod hanesyddol hon i wthio dros gael cydnabyddiaeth lawn i'r Gymraeg fel iaith ar lefel yr UE."

    Mae'r digwyddiad - "Amrywiaeth Ieithyddol: Her i Ewrop", wedi ei drefnu gan Grwp Cynghrair Rhydd Ewrop yn Senedd Ewrop. Jill yw Llywydd y Grwp.

    Dywed yr ASE Plaid Cymru:

    "Mae'n rhaid i'r discrimineiddio yn erbyn rhai ieithoedd ddod i ben fel bod cydraddoldeb i bawb sy'n byw yn yr UE. Rydym yn trafod trwy'r amser sut gall Ewrop ddatblygu perthynas well gyda'i dinasyddion. Does yna'r un lle gwell i ddechrau na thrwy ddefnyddio ieithoedd y mae pobl wir yn eu siarad. Bydd ein digwyddiad ni yn gosod y mater hwn ar frig agenda Senedd Ewrop."

    Diwedd

    Ffoto: Jill Evans