Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi datgan ei siom fod newyddiaduriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg heb ei gynnwys ar gyfer gwobr newyddiaduraeth fawreddog gan yr Undeb Ewropeaidd. Ei dymuniad yw newid y rheolau er mwyn cynnwys newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwobr a roddir yn flynyddol i ohebwyr sydd wedi dangos rhagoriaeth wrth ohebu ar brif faterion Ewropeaidd ac sydd wedi hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefydliadau neu bolisïau Ewropeaidd yw Gwobr Newyddiaduraeth Senedd Ewrop.
Ond mae’r wobr yn agored yn unig i ddarnau a gyfansoddwyd mewn un o 23 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hyn yn eithrio gohebwyr sydd yn ysgrifennu neu’n cynhyrchu rhaglenni yn y Gymraeg, Catalaneg, Basgeg a nifer o ieithoedd eraill sydd heb gael statws lawn swyddogol eto.
Mae’r ASE Plaid Cymru, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop, eisiau newid y rheolau er mwyn caniatau i newyddiaduraeth yn y Gymraeg gael ei ystyried ac mae hi wedi ymuno gydag Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill ar draws Ewrop mewn apêl at Lywydd Senedd Ewrop. Maen nhw wedi gofyn am welliant brys i’r rheolau ac wedi honni y gall eithrio ieithoedd answyddogol dorri cyfraith Ewropeaidd ac yn mynd yn groes i benderfyniadau eraill a gefnogir gan y Senedd. Mewn llythyr i Lywydd Senedd yr Undeb Ewropeaidd, Hans-Gert Poettering, mae’r Aelodau Seneddol yn gwneud yr achos y gallai’r rheolau presennol fod yn groes i Siartr Ewrop ar Hawliau Sylfaenol. Maen nhw hefyd yn amlygu goblygiadau Cyfarwyddyd Ewropeaidd ar Driniaeth Gyfartal yn seiliedig ar darddiad hiliol neu ethnig yn ogystal â Chytundeb Lisbon.
Dywedodd Jill Evans, a ymgyrchodd yn llwyddianus dros hawl cyd-swyddogol i’r Gymraeg ac sydd yn ymgyrchu dros statws lawn swyddogol i’r iaith:
"Mae’r wobr hon yn syniad ardderchog ond dyw e ddim yn beth synhwyrol i allgau newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg a’i rhwystro rhag cymryd rhan. Mae gyda ni safon uchel iawn yn y cyfryngau Cymraeg a Saesneg yng Nghymru, yn ysgrifenedig ac wedi ei ddarlledu, sydd yn trafod materion Ewropeaidd. Rwy’n teimlo’i bod hi’n eithriadol o annheg ac yn wrthgynhyrchiol i wahardd newyddiadurwyr Cymraeg rhag cystadlu ar gyfer y wobr hon.
" Rwy’n obeithiol bydd Senedd Ewrop yn newid ei rheolau. Nid yn unig am resymau cyfreithiol, ond er mwyn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan newyddiaduriaeth yn yr ieithoedd answyddogol a niferus hynny a lefarir yn eang ar hyd yr Undeb Ewropeaidd.
"Os gellir cyflwyno erthyglau a rhaglenni a gynhyrchwyd mewn Swedeg, Meliteg, Gwyddeleg neu Ddaneg, yna pam na ellir derbyn y Gymraeg? Rydym yn cynhyrchu newyddiaduraeth o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg a dylid cydnabod hyn ar lefel Ewropeaidd. Mae hyn oll yn fwy perthnasol byth yn ystod yr wythnos pan gyhoeddodd llywodraeth Cymru’n Un ddeddfwriaeth drafft sydd yn garreg filltir ar y daith i hybu statws y Gymraeg."
Diwedd/Ends
NODIADAU
Ar Ionawr 15, 2009, lansiwyd Gwobr Newyddiaduraeth Senedd Ewrop am yr ail dro. O dan Rheolau’r Wobr, dylid erthyglau neu adroddiadau sydd yn gymwys ar gyfer y Wobr fod yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn allgau nifer o enghreifftiau o newyddiaduraeth argraffedig ac a ddarlledwyd yn y Gymraeg yn ogystal â nifer o ieithoedd eraill sydd heb gael statws iaith swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ei benderfyniad ar strategaeth fframwaith newydd ar gyfer amlieithrwydd a fabwysiadwyd ym mis Tachwedd 2006, cafwyd datganiad gan Senedd Ewrop na ddylid cyfyngu’r argymhellion ar gyfer amlieithrwydd i brif ieithoedd swyddogol / yr aelod wladwriaethau. Mae Cytundeb Lisbon yn amodi bod yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig, inter alia, ar werthoedd sydd yn parchu hawliau dynol, gan gynnwys hawliau pobl sy’n perthyn i leiafrifoedd. Mae’r Siartr Hawliau Sylfaenol yn datgan y dylid gwahardd unrhyw wahaniaethu a wneir sydd yn seiliedig ar darddiad ethnig, iaith neu aelodaeth o leiafrif cenedlaethol; bydd yr Undeb yn parchu amrywiaeth diwylliannol, crefyddol, ac ieithyddol. Yn ein barn ni, mae Rheolau’r Wobr yn tanseilio’r egwyddorion hynny.
Ceir goblygiadau hefyd mewn perthynas â Chyfarwyddyd y Cyngor 2000/43/EC ar Fehefin 29, 2000 sydd yn gweithredu’r egwyddor o driniaeth gyfartal rhwng pobl beth bynnag eu tarddiad hiliol neu ethnig. Mae’n gwahardd gwahaniaethu anuniongyrchol: sefyllfaoedd lle gall darpariaeth sy’n ymddangos yn niwtral, maen prawf neu arfer fyddai’n rhoi pobl o darddiad hiliol neu ethnig o dan anfantais benodol o gymharu â phersonau eraill, oni bai y gellir cyfiawnhau’r ddarpariaeth, maen prawf, neu arfer hwnnw’n wrthrychol gan nod dilys a bod y modd o gyflawni’r nod hwnnw yn addas ac angenrheidiol.