• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cytundeb pwysig dros y Gymraeg ym Mrwsel
    Gorffennaf 15fed 2008

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawi yr hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel 'cytundeb pwysig i roi statws cyd-swyddogol i'r Gymraeg yn yr Undeb Ewropeaidd.' Gwnaed penderfyniad ffurfiol ym Mrwsel heddiw pan ddaeth Llywodraeth y DU i gytundeb gyda Chyngor Gweinidogion yr UE.

    Gweithiodd yr ASE Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru'n Un, ac aeth y trafodaethau yn eu blaen gyda chymorth llywodraeth yr aelod wladwriaeth. Ar hyn o bryd mae'r cytundeb yn ymwneud â'r Cyngor yn unig ond disgwylir iddo gael ei ymestyn i sefydliadau eraill yr UE.

    Dywedodd Jill Evans - sydd wedi bod yn ymyrchu ers blynyddoedd i wella statws y Gymraeg yn yr UE:

    "Rwy'n falch iawn i ni allu sicrhau statws cyd-swyddogol i'r Gymraeg yn yr UE. Ar y dechrau bydd hyn yn effeithio Cyngor y Gweinidogion ond y bwriad yw ymestyn hyn fel y bydd pobl a sefydliadau yng Nghymru yn gallu gohebu a chyfathrebu â'r sefydliadau Ewropeaidd yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol. Bydd hefyd peth cyfieithu ar y pryd ar gael mewn rhai cyfarfodydd swyddogol yr UE.

    "Mae'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio mwy a mwy ar ein bywydau bob dydd ac mae ond yn deg bod pobl yng Nghymru yn gallu dewis Cymraeg er mwyn delio â'r sefydliadau Ewropeaidd pe dymunir.

    "Mae hyn yn ddiwrnod pwysig i'r iaith Gymraeg, rwyf am dalu teyrnged i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch a hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas a Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis-Thomas am eu cefnogaeth ddi-ffael."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans