Mae ASE Plaid Jill Evans yn lawnsio apel i unigolion a sefydliadau yng Nghymru i gefnogi camau i wneud Cymraeg yn iaith gyd-swyddogol yn y Senedd Ewropeaidd.
Lawnsiodd Ms Evans yr apel ym Mrwsel ar ddydd Mawrth 3 Mehefin. Mae'r ASE am gael hawliau i bobl medru cyfathrebu â Senedd Ewrop trwy gyfrwng y Gymraeg ac i aelodau fedru annerch y Senedd yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.
Mae Ms Evans wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd am statws swyddogol i'r iaith Gymraeg ar lefel UE ac mae hyn nawr wedi cael cefnogaeth llywodraeth Cymru'n Un. Mae trafodaethau ar hyn o bryd yn cael eu cynnal rhwng Cyngor yr UE a disgwylir cael trefniant erbyn diwedd Mehefin. Mae hefyd trefniadiau yn cael eu gwneud ar gyfer cyfieithu.
Pwrpas apel Ms Evans yw dangsos a phrofi i'r Senedd Ewropeaidd bod yna galw go iawn ar gyfer hyn yn y Senedd ac y byddai pobl a sefydliadau Cymru yn denyddio'r Gymraeg be byddai hynny'n bosib . Mi fydd Jill Evans yn ysgrifennu at bob corff cyhoeddus yng Nghyrmu a nifer o fudiadau gwirfoddol ac yn y sector preifat i ofyn am eu cefnogaeth. Y gobaith yw y bydd awdurdodau Senedd Ewrop yn cael eu hannog i weithredu'r drefn iaith newydd, ynghyd â Chyngor y Gweinidiogion, y Comisiwn, a Phwyllgor y Rhanbarthau.
Yn siarad cyn y lawnsiad, dywedodd Jill Evans:
"Rydw i wedi bod yn ymgyrchu ers sawl blwyddyn i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r Gymraeg ar lefel Ewropeaidd ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth rydw i wedi derbyn wrth sawl mudiad ac unigolyn yng Nghymru.
"Mae rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg ar lefel UE yn fwy na gwerth symbolaidd. Mi fydd siaradwyr Cymraeg yn gallu cyfathrebu gyda sefydliadau'r UE yn eu hiaith eu hunain. Mae hyn yn hollbwysig o ystyried ei fod yn effeithio ar gymaint o agweddau o'n bywydau bob dydd.
"Mae fy apel yn benodol at Senedd Ewrop, sydd yn penderfynu ei rheolau ei hun. Mae'n rhaid i ni ddangos fod pobl yng Nghymru am gael yr un hawliau â gwledydd eraill fel Catalonia a Gwlad y Basg.
"Mae llywodraeth 'Cymru'n Un' wedi gwneud ymrwymiad cryf i gyflawni hyn ac mae trefniadau yn eu lle. Fe ddylsai fod effeithiau positif i'r economi yng Nghymru hefyd yn ogystal â chodi ein proffil fel cenedl yn Ewrop."
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AM, Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae hyn yn fater rydym wedi codi gyda'r Comisiwn oherwydd heb os, rydym yn credu y dylsai pobl Cymru gael yr hawl i ddefnyddio y naill neu'r llall o'n hieithoedd Cenedlaethol pan yn cyfathrebu â Senedd Ewrop.
"Trwy llywodraeth Cymru'n Un, mae Plaid yn benderfynol o gryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg ym mhob maes allweddol, ac mae cyfathrebu gyda'r Senedd Ewropeaidd yn un ohonyn nhw. Byddai hefyd yn hwb wych i'r iaith Gymraeg i gael ei defnyddio ar lefel proffil uchel ac mor bwysig yn gyfansoddiadol."
Diwedd.