• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Mynd i’r afael â’r fagl Cyfnodrannu
    Mehefin 2il 2008

    Gallai pobl ar eu gwyliau o Gymru elwa o reolau Ewropeaidd newydd i fynd i’r afael â thwyllwyr cyfnodrannu yn ôl ASE Plaid Cymru Jill Evans.

    Bu Ms Evans yn galw am reoleiddio llymach ac mae nifer o etholwyr wedi dod i gyswllt â hi wedi iddyn nhw gael eu targedu gan werthwyr unedau cyfnodrannu diegwyddor. Cytunodd Pwyllgor Materion Defnyddwyr Senedd Ewrop yn ddiweddar ar becyn o fesurau yn ddiweddar er mwyn helpu pobl ar eu gwyliau ac i dargedu’r twyllwyr.

    Dywedodd yr ASE Plaid Cymru, Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:

    "Mae nifer o etholwyr wedi dod i gyswllt â fi wedi iddyn nhw gael profiad gwael gyda thowtiaid unedau cyfnodrannu diegwyddor tra ar eu gwyliau. Mae’r bobl yma’n targedu pobl sydd ar eu gwyliau ac yn defnyddio ystod o driciau twyllo i geisio cael nhw i dorri eu henwau ar rywbeth nad ydyn nhw wir yn dymuno ei gael.

    "Mae hwn yn broblem ledled Ewrop a gweithredu ar lefel Undeb Ewropeaidd yw’r ffordd iawn ymlaen. Rydym yn cefnogi pecyn o fesurau sydd yn cynnwys 'cyfnod oeri’ er mwyn rhoi cyfle i bobl gael newid eu meddyliau, hyd yn oed wedi iddyn nhw dorri eu henwau. Byddai mesur arall yn galw ar werthwyr unedau cyfnodrannu i roi manylion ysgrifenedig llawn fyddai’n datgelu pwy ydyn nhw a’r hyn maen nhw’n ei werthu.

    "Mae nifer o bobl wedi cael profiad da wrth gyfnodrannu, ond yn anffodus mae troseddwyr a thwyllwyr wedi bod yn difetha’r diwydiant yma ers rhy hir. Does gan gwmnïau cyfnodrannu parchus ac onest ddim i’w ofni gan y rheolau newydd yma, ond mae’n bryd cymryd camau cadarn ar draws yr Undeb Ewropeaidd i rwystro’r twyllwyr cyfnodrannu yma."

    Nodiadau i olygyddion

    * Mae unedau cyfnodrannu eiddo sefydlog wedi eu gosod o dan gyfraith Ewropeaidd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae gwerthwyr twyllodrus wedi dechrau gwerthu pethau eraill fel “clybiau gwyliau” ac unedau cyfnodrannu ar longau, carafannau ayb. Cynlluniwyd y cynlluniau yma i fod tu allan i gwmpas rheoleiddio cyfnodrannu.

    * Erbyn hyn, mae’r pecyn a gytunwyd arni gan Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Materion Defnyddwyr Senedd Ewrop yn Strasbwrg.

    * Bydd yn dod o flaen y senedd lawn er mwyn cael ei gymeradwyo yn hwyrach eleni.

    Bydd y pecyn yn:

    * galw ar holl werthwyr unedau cyfnodrannu a gwyliau i roi manylion ysgrifenedig llawn ynglyn â phwy ydyn nhw a’r hyn maen nhw’n ei werthu;

    * rhoi cyfnod i ddefnyddwyr gael yr hawl i dynnu’n ôl o unrhyw beth a lofnodwyd ganddyn nhw;

    * gwahardd taliadau o flaen llaw;

    * rheoleiddio’r diwydiant “cyfnewid” unedau cyfnodrannu;

    * ymestyn y gyfraith i fod yn gyfrifol am "gynnyrch gwyliau hirdymor ". Mae’r rhain yn aml yn gynlluniau tebyg i unedau cyfnodrannu - ond maen nhw’n syrthio tu allan i gyfreithiau sydd yn bodoli ar hyn o bryd ac felly maen nhw’n agored i gael eu camddefnyddio ac i gynlluniau twyllodrus.

    Ffoto: Jill Evans