Cefnogir yr ymweliad gan Gronfa Achub y Plant (Save the Children)
Derbyniodd ASE Plaid Cymru Jill Evans ymweliad gan bobl ifanc o gymuned teithwyr y Sipsiwn o Sir Benfro a ddaeth i Frwsel i’r Senedd Ewropeaidd.
Cymerodd y bobl ifanc o Ysgol Monkton ran mewn DVD ynglyn â’u safbwyntiau a’u profiadau a ddangoswyd i Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill. Mae Project y Priordy ym Monkton yn darparu addysg a chymorth i blant Sipsiwn o oedran ysgol uwchradd, a fyddai fel arall wedi gadael addysg ar yr oedran yma. Gwnaed y ffilm gyda chefnogaeth Cronfa Achub y Plant (Save the Children) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Fe glywodd y grwp gan Els de Groen ASE, Caroline Mooney o’r Cynulliad Cenedlaethol a Livia Jaroka ASE o Rwmania, yr aelod Roma cyntaf i’w hethol. Cynhaliwyd yr ymweliad gyda chefnogaeth Cronfa Achub y Plant.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedod Jill Evans:
"Fe ddysgais lawer wrth gwrdd â’r bobl ifanc yma. Roedden nhw’n eiriolwyr nodedig ar ran cymuned Teithwyr y Sipsiwn ac fe gyflwynwyd tystiolaeth ganddyn nhw o’u profiadau a’r heriau fyddan nhw’n eu hwynebu.
"Mae gan yr Undeb Ewropeaidd Strategaeth Cynhwysiad Roma ond ceir llawer o wahaniaethu yn eu herbyn nhw o hyd.
“Roedd gan y bobl ifanc yma llawer o ddiddordeb yng ngwaith y Senedd Ewropeaidd. Mae’n amheuthun i weld pobl ifanc o Gymru yn arwain gyda phroject blaengar fel hyn. Rwyf wedi gofyn am gopi o’r DVD a byddaf yn ei ddangos i fy nghydweithwyr. Mae'r project hwn yn derbyn fy nghefnogaeth galonnog."
Llun: Jill Evans ASE (Plaid Cymru) gyda chynrychiolwyr o gymuned y teithwyr o Sir Benfro.
Diwedd.