• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid mewn ymweliad SAFE ag Abertawe
    Mawrth 14eg 2008

    Bydd ASE Plaid Cymru Jill Evans yn Abertawe Ddydd Llun, ar gyfer nifer o gyfarfodydd a chymorthfeydd, bydd yn ymweld â Mynediad Mwy Diogel i Bobl (SAFE - Swansea Access For Everyone).

    Dywedodd heddiw:

    "Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi gweithio’n agos gyda SAFE ar nifer o faterion gan gynnwys ceisio creu swydd ar gyfer Swyddog mynediad un-pwrpas o fewn Cyngor Abertawe, ac fe hoffwn glywed mwy am hyn o lygad y ffynnon.

    "Mae hygyrchedd i bobl sydd a chanddynt anableddau yn fater o bwys mawr ar y ‘bysiau plyg’ newydd yn rhywbeth rwy’n gobeithio trafod, ac efallai ei godi gyda First Cymru, y gweithredwr bysiau."

    Parhaodd Jill, sydd yn aelod o’r Rhyng-grwp Anabledd yn Senedd Ewrop:

    "Mae materion cydraddoldeb yn bwysig iawn nid yn unig i fi, ond i Blaid Cymru hefyd ac mae’r Blaid wedi ymrwymo i gynnal hawliau cyfartal pob unigolyn. Mae gwella mynediad i wasanaethau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau fod gan bobl sydd ag anableddau'r cyfle i gymryd rhan lawn ym mywyd cymdeithasol y gymuned. "

    Bydd Jill Evans hefyd yn cymryd rhan mewn cymorthfeydd gyda chynghorwyr lleol, gan gynnwys un yng Nghanolfan Cymunedol Waunarlwydd am 4:00pm.

    Nodiadau:

    Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac i hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ar gyfer pob dinesydd yng Nghymru. Mae’r dasg o ddatblygu cymunedau lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi, a phawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu cyfrannu yn ganolog i’r dasg o lywodraethu ar bob lefel sydd yn effeithio ar Gymru - llywodraeth leol, Y Cynulliad Cenedlaethol, San Steffan ac Ewrop.

    Ffoto: Jill Evans