Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn galw ar bawb yng Nghymru i ymateb i adroddiad diweddaraf Comisiwn Ewrop ar Bolisi Cydlyniad a dyfodol ariannu gan Ewrop.
Cyhoeddwyd yr adroddiad heddiw ac mae’n amlinellu’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer ariannu Ewropeaidd wedi 2013. Dydy rhoi’r cyfrifoldeb am ariannu rhanbarthol yn ôl i’r aelod wladwriaethau, fel y cynigwyd gan lywodraethau olynol y DU ac a wrthwynebwyd yn llwyddiannus gan Plaid Cymru, ddim yn un o’r dewisiadau a gafodd eu cynnwys.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n galed i sicrhau byd Cymru o hyd yn gymwys i dderbyn ariannu Ewropeaidd ar ôl 2013. Rwyf nawr yn galw ar bawb yng Nghymru i ymuno â’r ymgyrch - awdurdodau lleol, busnesau, grwpiau gwirfoddol ac unrhyw un a phawb sydd â diddordeb i wneud Cymru yn genedl fwy llewyrchus.
“Mae’r Comisiwn yn gofyn am sylwadau ar yr adroddiad erbyn mis Ionawr. Yn ogystal â’r categorïau newydd o ranbarthau “mwy” a “llai” datblygedig - byddai Cymru yn dod o dan y categori diwethaf ar sail y ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) diweddaraf - mae fframwaith arfaethedig newydd yn bodoli byddai’n dod â’r holl gronfeydd gyda’i gilydd. Yn y gorffennol cafodd cymhlethdod y broses gwneud cais ei feirniadu. Mae’r adroddiad yn addo ffordd well, a mwy syml o wneud cais ac mae’n bwysig bod sefydliadau a busnesau yng Nghymru yn ymateb i hwn hefyd. Mae’r materion hyn o bwys hanfodol i Gymru.
“Mae ariannu Ewropeaidd yn hanfodol bwysig i drawsffurfio ein heconomi a byddaf yn parhau i ymgyrchu yn Senedd Ewrop er mwyn cael y fargen orau i Gymru. Y tro hwn, gall pawb leisio’u barn hefyd.”
Diwedd
Nodiadau
1. Mae casgliadau’r adroddiad ynghyd â chwestiynau’r Comisiwn ar gael o: yma.
2. Mae’r pumed adroddiad ar gydlyniad economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol sef, “Investing in Europe ’s future” ar gael i’w lawr lwytho o: yma.
3. Gellir gwneud sylwadau ynglyn â’r adroddiad hyd nes bod mis Ionawr 31, 2011 ar: yma.
4. Os dymuna etholwyr dod i gyswllt â Jill Evans ASE gyda’u sylwadau gallant wneud hynny rwy anfon e-bost at jill.evans@europarl.europa.eu