Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawu adroddiad y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyfodol Polisi Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd a’i alw’n "hwb i’r ymgyrch i gadw ariannu rhanbarthol Ewropeaidd."
Mae’r adroddiad yn datgan yn glir, bydd Cymru’n parhau i fod ag angen mwy o gymorth gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd pan fydd y rownd nesaf o ariannu yn dechrau yn 2013.
Cyhoeddwyd yr adroddiad gan Bwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Cynulliad ac mae’n cefnogi polisi cydlyniant ar draws yr Undeb Ewropeaidd fydd yn parhau i roi cymorth ar sail angen a chymorth trawsnewidiol i’r rhannau hynny o Ewrop sydd yn symud allan o lefelau isaf tlodi. Mae hefyd yn ‘gwrthod yn llwyr’ y syniad o ‘ail-wladoli’ polisi cydlyniant, neu mewn geiriau eraill, rhoi’r cyfrifoldeb dros ariannu yn ôl i’r aelod wladwriaeth.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Mae gan Blaid Cymru record hir o ymladd dros Arian o Ewrop i Gymru a byddaf yn parhau i fod yn eiriolydd dros ein hachos yn Senedd Ewrop.
"Bu arian rhanbarthol Ewropeaidd yn hanfodol i Gymry oherwydd caf0dd ei dargedu at araloedd o dlodi. Ond ni ddefnyddiwyd y cannoedd o filiynau o bunnoedd a dderbyniom eisoes yn gall yn gynnar yn y rhaglen. Mae’n arswydus i feddwl y gallai Gorllewin Cymru a’r Cymoedd gymhwyso unwaith eto ar gyfer arian o Ewrop oherwydd bod gyda ni rai o ardaloedd tlotaf Ewrop gyfan o hyd. Ond dyna sut mae hi’n edrych ar hyn o bryd, felly fy mhrif flaenoriaeth yw cael y fargen orau i Gymru, ac os byddwn yn cymhwyso, i sicrhau ein bod yn cael yr uchafswm o arian sy’n bosib.
"Rwy’n falch fod gyda ni gefnogaeth llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd. Yr hyn rwy’n ei ddifaru yw bod yn rhaid i ni frwydro unwaith eto am yr hyn a ddylai fod yn hawl i ni yng Nghymru. Mae angen ariannu teg ar gyfer ein cymunedau ac mae hynny’n cynnwys ariannu Ewropeaidd."
Diwedd.