• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid yn cadeirio cynhadledd heddwch Cwrdaidd
    Rhagfyr 4ydd 2007

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi siarad am ei gobaith y gellir sefydlu heddwch parhaol rhwng cynadleddwyr Twrci a Chwrdaidd wrth iddi gymryd rhan mewn cynhadledd heddwch ym Mrwsel yr wythnos yma. Bu Ms Evans yn cadeirio sesiwn ar hawliau dynol yn y Bedwaredd Gynhadledd Rhyngwladol ar yr Undeb Ewropeaidd, Twrci a’r Cwrdiaid a gynhelir ym Mrwsel rhwng Rhagfyr 3-4, 2007.

    Cynhelir y gynhadledd o dan nawdd Comisiwn Dinesig Yr Undeb Ewropeaidd ar Dwrci ac mae Jill Evans yn aelod o’i Chyngor Ymgynghorol. Datblygodd y comisiwn allan o gynhadledd gyntaf yr Undeb Ewropeaidd ar y Twrciaid a’r Cwrdiaid a gynhaliwyd yn 2004 tra’r oedd yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried dechrau trafodaethau gyda Thwrci ar gael ei dderbyn i’r Undeb Ewropeaidd.

    Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’r gynhadledd yn digwydd ar adeg hanfodol yn yr ymdrech dros ddemocratiaeth Cwrdaidd ac yn ymdrechion Twrci i baratoi ei hun ar gyfer y posibilrwydd o gael ei dderbyn i’r Undeb Ewropeaidd.

    Wrth siarad cyn y gynhadledd ym Mrwsel, dywedodd Jill Evans:

    "Mae’r gynhadledd hon yn dod ar adeg bwysig yn ystod y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd, Twrci a’r bobl Cwrdaidd. Mae angen deialog adeiladol arnom nawr yn fwy nag erioed.

    "Mae bygythiadau diweddar gan Twrci i ymosod ar y rhan Iracaidd o Cwrdistan wedi peri dychryn mawr. Mae nifer o’r diwygiadau sydd yn ofynnol ar Twrci i’w gweithredu cyn cael ei hystyried ar gyfer aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn araf iawn. Byddwn yn trafod materion hanfodol fel Project Argae Ilisu, swyddogaeth menywod a hawliau dynol."

    Nodiadau

    Cynhelir y bedwaredd Cynhadledd Rhyngwladol ar yr Undeb Ewropeaidd, Twrci a’r Cwrdiaid ym Mrwsel rhwng Rhagfyr 3-4, 2007 o dan nawdd Comisiwn Dinesig Yr Undeb Ewropeaidd ar Dwrci, sydd wedi ei gyfansoddi o’r Pwyllgor Bar ar Hawliau Dynol (Y Deyrnas Gyfunol), Project Hawliau Dynol Cwrdaidd (Y Deyrnas Gyfunol), medico rhyngwladol (Yr Almaen) a Sefydliad Rafto (Norwy), ac fe’i gefnogi gan aelodau Senedd Ewrop.

    Bu trafodaethau ynglyn â’r posibilrwydd o dderbyn Twrci i’r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn eu blaen ers 2005 ac maen nhw’n debygol i gymryd mwy na degawd. Er mwyn ymuno, rhaid i Twrci foddhau'r hyn a elwir yn ‘Faen Prawf Copenhagen’ sydd yn cymryd golwg ar y parch sydd gan wlad tuag at hawliau dynol, democratiaeth a rheolaeth cyfraith a p’un ai a oes gan wlad economi farchnad hyfyw.

    Ffoto: Jill Evans