• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Rhybudd o Fae Colwyn ynglyn â gormodedd o farwolaethau o ganlyniad i’r oerfel
    Chwefror 1af 2009

    Wrth i’r tymheredd syrthio dros y penwythnos yma, ymunwyd ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd, Llyr Huws Gruffydd gan gynghorwyr lleol a’r AS Ewropeaidd, Jill Evans ym Mae Colwyn ar Ddydd Sadwrn i gasglu llofnodion ar ddeiseb yn galw ar lywodraeth y DU i weithredu ar unwaith er mwyn torri biliau gwresogi pobl.

    Roedd Maer Bae Colwyn, y Cynghorydd Phil Edwards, sydd hefyd yn ymgeisydd seneddol ar gyfer Aberconwy, a Chynghorydd y Blaid ym Mae Colwyn, Abdul Khan hefyd yn brysur yn casglu llofnodion. Mae’r blaid yn ymgyrchu dros becyn o fesurau gan gynnwys gostyngiad dros dro mewn TAW ar wresogi yn y cartref wedi ei ariannu gan dreth annisgwyl ar gwmnïau ynni.

    Dywedodd Llyr Huws Gruffydd:

    "Mae’r teulu cyffredin mewn ardaloedd fel Bae Colwyn ac Abergele yn talu £517 yn fwy am nwy a £236 yn fwy am drydan na phum mlynedd yn ôl, tra bo elw cwmnïau ynni’r DU wedi codi gan dros 500%. Mae elusen genedlaethol wedi cyfrifo gallwn weld 40 o farwolaethau ychwanegol yn ardal Bae Colwyn yn unig y gaeaf yma o ganlyniad i’r oerfel.

    "Rydym yn rhedeg yr ymgyrch yma er mwyn danfon neges i Gordon Brown, dylai ei lywodraeth wneud mwy i helpu pobl ymdopi gyda chost gwresogi eu cartrefi. Rhaid i’w blaid Lafur sy’n methu amgyffred â phobl gyffredin ac sydd heb unrhyw syniadau newydd fagu peth asgwrn cefn, a pheidio â phorthi’r cwmniau ynni mawrion ac ymddwyn ar unwaith i dorri biliau ynni pobl.

    Llun: Yn y llun o’r chwith i’r dde mae: Y Cynghorydd Phil Edwards, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Aberconwy, Jill Evans ASE, ac Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd, Llyr Huws Gruffydd.

    Yn y llun o’r chwith i’r dde mae: Y Cynghorydd Phil Edwards, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Aberconwy, Jill Evans ASE, ac Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin Clwyd, Llyr Huws Gruffydd.

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    “Mae llawer gormod o bobl yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwydo’u teuluoedd y gaeaf hwn, wrth i gost gwresogi gynyddu’n ormodol. Nid dyma’r adeg i Gordon Brown wneud ystumiau gwag, pan ddylai fod ar ochr y bobl sydd yn ymdrechu’n galed i gadw’n gynnes, ac roedd hynny’n glir wrth y nifer o sgyrsiau ges i gyda phobl ym Mae Colwyn heddiw.

    "Tra bo Plaid Cymru ar ochr y bobl, mae llywodraeth Lafur San Steffan yn parhau i ddilyn yr hen drywydd o ‘adael i’r farchnad redeg yn wyllt'.”

    Mae deiseb Plaid Cymru’n galw am gymryd y camau dilynol ar unwaith er mwyn helpu pobl yn ystod y gaeaf hwn:

    - gostyngiad dros dro mewn TAW ar wresogi’r cartref wedi ei ariannu gan dreth annisgwyl ar gwmnïau ynni

    - Llywodraeth y DU i weithredu treth annisgwyl ar elw'r Cwmniau Ynni, fyddai’n ariannu pecyn help ar gyfer y rhai hynny a effeithir gan dlodi tanwydd

    - Estyn cynllun taliadau tanwydd y gaeaf er mwyn cynnwys pobl anabl, cleifion cancr, pobl yn dioddef o salwch hirdymor a theuluoedd a chanddynt aelodau anabl a phlant bach

    - Rhoi terfyn ar y gwahaniaeth pris sydd rwng cwsmeriaid sydd yn defnyddio mesurydd rhagdaledig a phobl sydd yn talu drwy ddebyd uniongyrchol

    - Ail-gyflwyno rheoli prisoedd nwy a thrydan a ddiddymwyd yn 2002

    - Cyflwyno toll gymdeithasol orfodol

    - Sicrhau nawdd pellach gan lywodraeth y DU i ddod â mwy o gartrefi i isafswm safon effeithlonrwydd ynni

    - Cysylltu cyngor ar fudd-dal gyda chyngor ar effeithlonrwydd ynni

    - Sicrhau swyddogaeth Awdurdodau Lleol yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd

    Gallwch lofnodi’r ddeiseb a chael mwy o wybodaeth ynglyn â’r ymgyrch drwy ymweld â www.cynhesucymru.plaidcymru.org neu drwy lofnodi’r ddeiseb fydd yn cael ei gasglu drwy’r etholaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans