• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid yn siarad dros Gymru yn Ewrop
    Chwefror 1af 2011

    Heb unrhyw help gan San Steffan, rhaid i Gymru chwilio am gymorth o rywle arall

    Cyflwynodd Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, ymateb y Blaid heddiw i ymgynghoriad y Comisiwn Ewropeaidd ynglyn â dyfodol ariannu Ewropeaidd. Yn anffodus, mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn debygol o gwrdd â’r meini prawf eto fydd yn eu gwneud yn gymwys i dderbyn y categori uchaf o nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd; ac mae hyn yn golygu bod Cymru yn parhau i fod yn un o ranbarthau tlotaf yr Undeb Ewropeaidd.

    Dywedodd Jill Evans, ASE Plaid Cymru dros Gymru,

    "Yn ystod y cyfnodau economaidd anodd hyn, mae ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd wedi dod yn fwy pwysig nac erioed i gefnogi swyddi Cymreig. Mae’r Llywodraeth Brydeinig bresennol, yn union fel ei ragflaenydd Llafur, yn ceisio cael gwared ar ariannu Ewropeaidd yn llwyr, heb unrhyw warant bydd arian o’r DU yn cymryd ei le. O ystyried diffyg ymrwymiad amlwg y Llywodraeth tuag at brojectau sydd eu hangen mor ddirfawr ar economi Cymru, fel trydanu'r rheilffordd o Lundain i Abertawe, gallwn ddweud gyda sicrwydd bod angen i lais Cymru gal ei glywed yn uchel ac yn eglur yn Ewrop.

    Dyma pam mae Plaid Cymru wedi cyflwyno ein hargymhellion ein hunain unwaith eto i’r Comisiwn ynglyn â’r modd y dylai ariannu Ewropeaidd barhau wedi 2013. Yn ogystal â hynny, mae angen i ni ei gwneud hi’n haws i bobl geisio am gronfeydd arian Ewropeaidd ac i gryfhau’r bartneriaeth rhwng cyrff etholedig, addysg, y sectorau preifat a chyhoeddus. Rhaid i lais Cymru gael ei glywed yn uchel a chlir yn yr Undeb Ewropeaidd ac felly bydd Plaid Cymru yn parhau i sicrhau taw dyma yw’r achos ".

    Er taw’r nod eithaf yw i Gymru beidio â bod angen y fath lefelau o nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn y cyfamser mae wedi dod yn elfen bwysig yn yr ymdrechion i hybu economi Cymru. Mae’r arian eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dros 50,000 o swyddi a 3,000 o gwmnïau yn ogystal â helpu dros 100,000 o bobl mewn i waith neu ddysgu pellach.

    Diwedd

    Ymateb Plaid Cymru i Ymgynghoriad Comisiwn Ewrop ar y pumed Adroddiad Cydlyniad

    Mae Plaid Cymru yn un o ddau bartner y glymblaid sy’n ffurfio Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod polisïau Plaid Cymru yw cryfhau statws a dylanwad Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac i gyflenwi llewyrch angenrheidiol i bobl Cymru. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn mae’n bwysig fod gan Gymru’r gallu i leisio’i farn ar bynciau sydd wedi eu cysylltu’n gryf i’n heconomi a’n ffordd o fyw. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu ymarfer ymgynghori’r Comisiwn ar y Pumed Adroddiad Cydlyniad a hoffem ddiolch i’r Comisiwn am ganiatáu i’r nifer o fudd-ddeiliaid yng Nghymru i ware rhan ym mhroses datblygu’r polisi Cydlyniad ôl-2013. Cewch fanylion isod o egwyddorion y Blaid, a’r pwyntiau lle mae Plaid Cymru a’r Comisiwn yn gytûn a’r meysydd lle’r rydym yn teimlo gallai’r Comisiwn ymchwilio i feysydd eraill.

    Egwyddorion Allweddol Plaid Cymru

    Mae Gorllewin Cymru ac ardal y Cymoedd yn syrthio o dan y trothwy 75% sydd yn golygu fod yr ardaloedd yma wedi bod yn gymwys i dderbyn y lefel uchaf o gymorth gan yr Undeb Ewropeaidd ers y flwyddyn 2000. O ganlyniad i hyn, cred Plaid Cymru dylai’r polisi Cydlyniad gymhwyso i’r holl ranbarthau ar draws yr Undeb Ewropeaidd a dylid canolbwyntio’r polisi Cydlyniad ar y rhanbarthau tlotaf o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Hefyd, er mwyn cwrdd â’r amcanion uchelgeisiol a osodwyd yn strategaeth Ewrop 2020, rhaid i bolisi Cydlyniad yn y dyfodol gael adnoddau digonol.

    Mae Plaid Cymru hefyd yn teimlo ei fod yn angenrheidiol bod cymorth trawsnewidiol teg yn cael ei gynnig i ranbarthau sydd yn symud allan o’r Cydgyfeiriant er mwyn cyfnerthu enillion a gafodd eu sicrhau ac i osgoi unrhyw gamau gwrthredol.

    Cred Plaid Cymru felly:
    • Dylai fod ffocws clir ar nodau Ewrop 2020
    • Dylai fod cymaint o hyblygrwydd ag sy’n bosibl ar lefel rhaglen er mwyn galluogi ymatebion a gafodd eu teilwra ar gyfer anghenion a chyfleodd rhanbarthol penodol
    • Bod symleiddio yn ddymunol ar bob lefel a dylai polisi Cydlynu adeiladu ar sustemau yn hytrach na cheisio newidiadau cyfanwerthol.
    • Dylai polisi Cydlyniad gael ei ddatblygu a’i weithredu mewn partneriaeth
    • Dylai polisi Cydlyniad barhau i fod yn seiliedig ar gylch saith mlynedd
    • Dylai Cronfa Gymdeithasol Ewrop barhau i fod wedi ei integreiddio’n agos at bolisi Cydlyniad
    • Mae’r gymysgedd reoliadol bresennol rhwng Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn un da a dylid parhau i ddefnyddio rheolau cymhwysedd cenedlaethol barhau i gael eu defnyddio.

    Yn yr Adroddiad mae Plaid Cymru’n cefnogi:
    • Cynigion am Fframwaith Strategol Gyffredin
    • Y ffocws ar Ewrop 2020
    • Cymhwysiad yr egwyddor cyfranogaeth
    • Ffocws ar ddulliau datblygu lleol
    • Y ffocws ar fuddsoddiad parhaus mewn isadeiledd er mwyn gwella’r awydd i gystadlu yn yr hirdymor; fel yr amlinellir yn rhaglen Adnewyddiad Economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
    • Y cynnig i gynnwys mecanwaith trawsnewidiol i gefnogi rhanbarthau sydd yn symud allan o Gydgyfeiriant. Dylid cydnabod bydd rhanbarthau sydd ar 76% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, er enghraifft, yn parhau i dderbyn lefelau o gymorth ariannol sydd yn agos i lefelau Cydgyfeiriant tra dylai’r rhanbarthau sydd yn agosach at 90% dderbyn yr hyn sy’n agosach at lefelau Cystadleurwydd.
    • Targedu ariannu yn fwy effeithiol ac i ganolbwyntio arian ar nifer llai o flaenoriaethau
    • Cynigion ar gyfer dull awdit sengl.
    • Cynigion ar gyfer mesurau symleiddio.

    Dydy Plaid Cymru ddim yn cefnogi:
    • Cynyddu amodoleddau a chymhelliannau a gymhwysir ar lefel aelod wladwriaeth. Does dim modd gall y Cytundeb Partneriaeth Datblygu a Buddsoddiad gymryd yr holl drefniadau gweinyddol gwahaniaethol ac unigryw sydd yn bodoli ar draws yr Undeb Ewropeaidd; fel y sawl a geir yn y Deyrnas Gyfunol.
    • Targedu wedi’i ganoli o ardaloedd tiriogaethol penodol gan gynnwys rhai trefol, mynyddig ac ynysoedd. Os gaiff pwyslais yr adroddiad ar yr ardal drefol ei gadw, yna ni ddylai fod yna unrhyw orfodaeth o’r hyn sydd yn cynnwys ardal drefol o’r Undeb Ewropeaidd. Does dim rhaniad trefol/gwledig taclus yng Nghymru ac felly dylid gadael ddiffiniadau o’r math yma i’r rhanbarthau.
    • Blaenoriaethau gorfodol ac ariannu sydd wedi ei neilltuo, gan fod hyn yn arwain at leihau hyblygrwydd y rhanbarthau a allai fod yn wynebu rhaglenni llai ac yn gosod terfynau ar y nifer o flaenoriaethau y gellir eu dewis.
    • Cynigon ar gyfer cronfa sy’n gysylltiedig â pherfformiad. Ceir perygl mawr bydd y cynnig hwn yn arwain at ranbarthau tlawd yn peidio â chael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i symud allan o dlodi.

    Ffoto: Jill Evans