Mae Jill Evans ASE Plaid Cymru a Nerys Evans AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyfarfod ym Mrwsel i drafod ariannu Ewropeaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
Bydd yr ardal yn elwa diolch i ail rownd o ariannu Ewropeaidd gwerth miliynnau o bunnoedd o'r Gronfa Gydgyfeirio sy'n dod yn lle Amcan Un.
Mae'r ddwy wleidydd am sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu o'r cynllun Amcan Un fel bod cymunedau lleol yn elwa gymaint â phosib o'r cynllun newydd.