Bydd Is-lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE yn ymweld ag Abertawe ar ddydd Iau, Ebrill 9.
Bydd hi’n ymweld â Gorsaf Fysiau’r Quadrant, sydd yn mynd i gael ei ail-ddatblygu cyn bo hir, yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones AC.
Daw’r arian am y cynllun o ddau brif ffynhonnell- Grant Trafnidiaeth y Cynulliad a Chronfa Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Jill Evans:
“Mae’n glir fod angen dybryd i ail-ddatblygu’r hen orsaf yma. Abertawe yw prif ddinas rhanbarthol de orllewin Cymru ac mae angen iddi arwain y ffordd wrth greu both trafnidiaeth. Yn ystod yr ymgyrch Ewropeaidd yma byddwn yn ymladd i gysylltu pob rhan o Gymru gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd.
“Gallwn ni ddim disgwyl denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os nad yw’r cyfleusterau sydd yn gysylltiedig ag ef o safon digon da. Yn dilyn y cyhoeddiad ynglyn ag ariannu gan Weinidog Trafnidiaeth y Blaid, Ieuan Wyn, bydd Abertawe nawr mewn sefyllfa i ddenu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy greu both trafnidiaeth sydd yn gyfforddus a ffit i’w ddefnyddio.
“Dylid croesawi’r defnydd a wneir o arian Cydgyfeirio Ewropeaidd i rannu’r cynllun yma ar y cyd ac mae’n dangos sut mae arian Strategol Ewropeaidd yn cael eu defnyddio i helpu cyflawni projectau pwysig ar gyfer pobl Cymru ar adeg pan fod llawer yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae hwn yn wahanol iawn i’r dull di-hid o weithredu a welsom o gyfeiriad Llundain a arweiniodd at y wasgfa gredyd a chaledi economaidd i lawer. Mae llywodraeth Cymru’n Un Plaid Cymru yn helpu pobl Cymru oroesi’r storm economaidd, ac maen nhw ar ochr y bobl sydd yn ceisio ymdopi â’r wasgfa gredyd.”
Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad sydd wedi’i leoli yn Abertawe, Dr Dai Lloyd:
“Am flynyddoedd mae cynghorau Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn sôn am ail-ddatblygu’r Quadrant. Bu Plaid Cymru yn ymgyrchu dros ail-ddatblygu’r lle am nifer o flynyddoedd.
“Rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi gallu cyflenwi’r arian angenrheidiol ar gyfer y datblygiad yma, ar ôl llai na dwy flynedd o fodolaeth Llywodraeth Cymru’n Un yn y Cynulliad Cenedlaethol.”
Diwedd.