• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid Cymru’n cefnogi cais Ewro 2016
    Mehefin 11eg 2008

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans yn cefnogi’r cais ar y cyd gan Gymru a’r Alban i gynnal Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop yno yn 2016.

    Mewn ymateb i’r cyhoeddiad bod Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi gofyn am gyfarfod gyda’i gymar yn y Cynulliad Cenedlaethol, Rhodri Morgan, a’i fod yntau wedi ateb yn gadarnhaol, dywedodd Jill Evans:

    "Byddwn yn annog Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed yr Alban i gytuno cyn gynted â phosib ar gynnal cais ar y cyd, er mwyn galluogi ymdrech cydunol i ddod â’r gystadleuaeth i’n dwy wlad.

    “Byddai dod a’r rowndiau terfynol i Gymru yn dod â nifer o fuddion i ni fel cenedl. Er enghraifft, mae economegwyr sydd yn gweithio i lywodraeth Awstria, lle mae’r rowndiau terfynol presennol yn cael eu cyd-gynnal, yn disgwyl gweld eu gwlad yn elwa o dros 321 miliwn Ewro. Yn ychwanegol i hyn, maen nhw’n disgwyl i 263 miliwn Ewro gael eu gwario yn Awstria yn ystod y gystadleuaeth, yn ogystal â sawl mil o swyddi fyddai’n cael eu creu yn y diwydiannau adeiladu, twristiaeth a gwasanaethau. Yn y diwydiant gwestai yn unig, maen nhw’n disgwyl tua 830,000 o archebion gan dimoedd, swyddogion, a chefnogwyr.

    “Mae yna fuddion iechyd a chymdeithasol hefyd. Dylai’r cynnydd mewn buddsoddiad yn yr isadeiledd chwaraeon gael effaith gadarnhaol ar iechyd ein cenedl. Dylai’r ffaith bod chwaraewyr Cymru’n cystadlu yn y rowndiau terfynol ar eu tir eu hunain fod o help i ysbrydoli pobl o bob oed.

    “Hoffwn feddwl byddai ymwelwyr fydd yn dod yma am y pêl-droed yn dychwelyd i Gymru ar ôl y gystadleuaeth a thrwy hynny, rhoi hwb i’n diwydiant twristiaeth. Mae’r amlygrwydd byd-eang fyddai’n dod gyda chystadleuaeth o’r math yma’n golygu mai dim ond ar ein hennill y gallem fod.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans