• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • ASE Plaid Cymru yn cefnogi ymdrechion i leihau gwastraff bwyd
    Medi 15fed 2011

    Ar Ddiwrnod Diogelwch Bwyd Ewrop (Dydd Iau, Medi 15) bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn cefnogi ymdrechion i leihau maint y bwyd rydym ni’n ei wastraffu.

    Amcangyfrifir bod tua 410,000 tunnell o fwyd yn cael ei daflu bob blwyddyn yng Nghymru, sef cyfartaledd o £420 i bob teulu yn flynyddol. Mynd i’r Afael â Gwastraff Bwyd yw thema Diwrnod Diogelwch Bwyd Ewrop eleni.

    Canmolwyd ymdrechion awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r broblem gan Ms Evans, gan gynnwys casglu gwastraff bwyd o ochr y ffordd ac ailgylchu.

    O dan arweiniad Plaid Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn datblygu treulydd anaerobig i drin gwastraff bwyd a’i drosi i drydan all fwydo’r grid cenedlaethol. Mae’r cyngor eisoes yn cynnig gwasanaeth casglu bwyd yn yr un modd ac mae cyngor Caerffili, sydd hefyd dan arweiniad Plaid Cymru ac sydd newydd ddarparu ‘blychau bwyd’ i gartrefi er mwyn helpu’r broses.

    Wrth wneud sylw ar hyn, dywedodd Ms Evans,

    "Bob blwyddyn yng Nghymru, gwastraffwn lwyth dychrynllyd o fwyd, am gost gyfartalog o tua £420 y cartref. Yn aml iawn, mae hwn yn fwyd sy’n berffaith iawn ac nad sydd angen ei daflu o gwbl.

    "Mae’n bleser mawr gen i fod Comisiwn Ewrop wedi penderfynu mynd i’r afael â gwastraff bwyd a’i wneud yn flaenoriaeth. Mae effaith economaidd ac amgylcheddol bwyd a wastraffwyd yn anferth ar draws Ewrop, gyda bron i nawdeg miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu’n flynyddol ar draws y cyfandir.

    "Mae’r camau a gymerir gan awdurdodau lleol i leihau gwastraff ac ailgylchu bwyd yn hanfodol wrth fynd i’r afael â’r broblem yma. Dyna pam mae’n bleser gen i weld cynghorau dan arweinyddiaeth Plaid Cymru fel Gwynedd a Chaerffili yn arwain y ffordd wrth drefnu casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu.

    "Mae gan bob un ohonom ran i’w ware wrth leihau’r maint o fwyd byddwn yn ei daflu’ n ddiangen ac wrth sicrhau bod gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu yn hytrach na’n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae digon o gyngor ar gael ar-lein yngl?n â sut i wastraffu llai o fwyd, er enghraifft rwy edrych ar feintiau cyfrannau bwyd, neu drwy wneud gwell defnydd o weddillion. Mae hefyd yn bwysig iawn inni fanteisio ar y casgliadau gwastraff organig a gwastraff bwyd a gynigir gan gynghorau lleol os ydym am leihau gwastraff diangen yng Nghymru."

    Bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn cynnal diweddglo’r daith ‘Dyma’n Sbwriel Ni’ sydd wedi bod yn teithio o amgylch y wlad i godi ymwybyddiaeth o wastraff bwyd. Ar yr wythfed o Dachwedd, bydd Jill Evans yn siarad mewn cynhadledd fawr ym Mrwsel ar Frwydro Gwastraff Bwyd yn yr Undeb Ewropeaidd i roi golwg ar y pwnc o gyfeiriad Senedd Ewrop, ochr yn ochr â Chomisiynydd Amgylchedd yr Undeb Ewropeaidd, Janez Potocnik.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans