Dylid gwahardd bwyd o anifeiliaid wedi’u clonio yn ôl Aelodau Seneddol Ewropeaidd sydd wedi mynd â’r mater gerbron pleidlais. Bu ASE Plaid Cymru Jill Evans, yn ymgyrchu dros waharddiad o’r math ers 2008.
Byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnwys cynnyrch llaeth a chig o anifeiliaid wedi’u clonio fel rhan o reolau’r Undeb Ewropeaidd ar yr hyn a elwir yn ‘fwydydd newydd’. Byddai cyfyngiadau hefyd yn cael eu gosod ar unrhyw fwydydd a gynhyrchwyd gan ddefnyddio nano-dechnoleg.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Jill Evans, sydd yn aelod o Bwyllgor Amgylchedd Senedd Ewrop:
"Byddai gwaharddiad llwyr yn newyddion da i ddefnyddwyr ac i’n diwydiant amaethyddol. Mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi rhoi eu cefnogaeth a nawr mae hi i fyny i lywodraethau’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi’r argymhellion.
"Mae cefnogaeth i waharddiad llwyr ar fwy a gynhyrchir o anifeiliaid wedi’u clonio wedi bod yn tyfu’n gyson ers i’r mater yma gael ei godi gyntaf ar lefel Undeb Ewropeaidd ddwy flynedd yn ôl. Rwy’n bles iawn ein bod wedi gallu ennill y bleidlais ar y cynnig yma.
"Ceir cofnod da o’r problemau iechyd a lles sydd yn gysylltiedig ag anifeiliaid wedi’u clonio, yn ogystal â’u cyfradd marwolaethau uchel. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi’r gwaharddiad yma ar waith cyn bo hir, cyn i’r sefyllfa ddatblygu i’r fath raddau lle gallai’r cynnyrch yma gyrraedd y gadwyn fwyd.
"Gobeithiaf bydd llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried yr alwad a wnaed gan y Senedd ac yn cytuno ar y mater hwn er mwyn i waharddiad gael ei osod cyn gynted â phosib."
Diwedd.