ASE yn cefnogi pleidlais ar 'Gwlad Wreiddiol’
Mae Senedd Ewrop wedi pleidleisio ddoe am well sustem o labeli bwyd. Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi ymgyrchu dros labeli mwy eglur er mwyn ei wneud yn haws i ddefnyddwyr ddeall pa gynhyrchion sydd yn uchel mewn braster, siwgr, halen a chalorïau.
Dywedodd Jill Evans,
"Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith dros labeli bwyd yn eglur er mwyn i ni allu bod yn sicr bod y nwyddau fyddwn ni’n eu prynu yn union yr hyn mae’n ei ddweud ar y pecyn. Er enghraifft, rhaid i bobl sydd eisiau prynu cig Cymreig fod yn siwr mai o Gymru mae’r cynnyrch yn dod. Fe bleidleision ni heddiw am labeli cig gyda’i ‘wlad wreiddiol’ arni - sy’n golygu'r wlad lle y cafodd ei eni, ei fagu a’i ladd - fel gall defnyddwyr fod yn siwr mai cig Cymreig ydyw. Mae hwn yn bwysig iawn hefyd i ffermwyr a’r diwydiant cig yng Nghymru.”
"Caiff pobl yng Nghymru eu gormesu â hysbysebion bwyd a all arwain at ddrysu a dewisiadau bwyta gwael. Mae’n hanfodol fod y defnyddwyr yn cael gwybodaeth syml ynglyn â’r bwyd fyddan nhw’n ei brynu. Nid mater o hawliau defnyddwyr yn unig mo hwn ond mae hefyd yn bwysig ar gyfer iechyd. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 57% o oedolion a 33% o blant yn ordrwm neu’n ordew, gyda gordewdra yn un o’r achosion marwolaeth gellir eu rhwystro mwyaf cyffredin yng Nghymru.”
Parhaodd hithau,
"Fe ges i fy siomi pan wrthodwyd y sustem “goleuadau traffig”, sef y sustem fwyaf effeithiol o labeli bwyd. Cefais lawer o lythyrau gan etholwyr yng Nghymru ynglyn â hyn, a byddaf yn parhau i ymgyrchu dros ein hawl i ddefnyddio labeli “goleuadau traffig” yng Nghymru."
Diwedd.
Nodiadau
1. Mae’r sustem goleuadau traffig yn defnyddio symbolau gwyrdd, melyngoch a choch i ddangos meintiau cymharol carbohydradau, braster, siwgr a halen a geir mewn cynnyrch bwyd.
2. Gwrthodwyd y cynnig i labeli bwyd sydd yn cynnwys wyau a chynnyrch wyau a ddaeth o ieir batri.