• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Hwb i frandiau Cymreig yn Ewrop
    Mawrth 17eg 2010

    Croeso i reolau labelu bwyd gwell

    Mae cefnogaeth i gael rheolau gwell ar y broses o labeli bwyd wedi cael ei groesawi gan ASE Plaid Cymru Jill Evans.

    Cefnogodd Bwyllgor Amgylchedd Senedd Ewrop argymhellion newydd ar gyfer labelu holl fwyd wedi’i ragbecynnu'n glir gydag enw’r wlad y daeth ohono. Mae’r ASE’n gobeithio bydd hyn yn hybu proffil ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, gyda’n cynnyrch dosbarth cyntaf fel cig oen Cymru neu gaws Cymreig.

    Cefnogodd yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd labelu fyddai’n dangos p’un a defnyddiwyd wyau o ffermydd batri mewn bwydydd.

    Croesawyd y bleidlais gan yr ASE ar gyfer Cymru gyfan fel newyddion da ar gyfer defnyddwyr, ffermwyr a’r diwydiant bwyd.

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    "Byddai’r ddeddf yma’n dda ar gyfer y defnyddiwr ac yn newyddion da iawn i ffermwyr a’r diwydiant bwyd. Dylai bwyd rhagbacedig gael ei labelu’n glir ac yn onest gan ddatgan o ble mae e’ wedi dod.

    "Ar y foment, gellir labelu bwyd fel cynnyrch y wlad lle cafodd ei brosesu a’i bacio. Mae hwn yn gamarweiniol i’r defnyddiwr, ond mae’n tanseilio ein hymdrechion i hyrwyddo cynnyrch sydd yn wirioneddol 'wedi ei wneud yng Nghymru’ fel cig oen neu gaws Cymreig.

    Wrth wneud sylw ynglyn â batri ieir, dywedodd yr ASE:

    "Mae nifer ohonom yn dewis prynu wyau buarth, ond chawn ni ddim yr un dewis bob tro pan ddaw hi i fwydydd parod sy’n cynnwys wyau.

    "Rwy eisiau i bobl i weld yr hyn maen nhw’n ei brynu. Dyna pam wnes i gefnogi gwneud hi’n orfodol i labelu bwyd a wnaed gydag wyau batri er mwyn sicrhau safonau lles anifeiliaid uwch.

    "Mae cannoedd o etholwyr wedi dod i gyswllt â fi ynglyn â hyn, ac rwy’n bles iawn fod y pwyllgor wedi cytuno."

    Bydd y gyfraith ynglyn â labelu bwyd yn dod i rym cyn i Senedd lawn Ewrop gwrdd ym mis Mai. Diwedd.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans