• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Plaid Cymru yn mynnu mwy o ryddid i gael prynu’n lleol
    Mai 30ain 2012

    Y Blaid yn galw am 75% o gaffaeliad i fod o gyflenwyr Cymreig

    Mae aelodau blaenllaw Plaid Cymru, sef Jill Evans ASE ac Alun Ffred Jones AC wedi galw am wneud rheolau caffael cyhoeddus i gael eu gwneud yn fwy hyblyg a chynaliadwy yn ystod adolygiad cyfredol cyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae Ms Evans yn dymuno cael newid fel y gall busnesau lleol gael eu ffafrio; gweithred fyddai’n cyfrannu at dargedau amgylcheddol a rhoi hwb i fusnesau Cymreig.

    Trefnodd Ms Evans gyfarfod yn Senedd Ewrop yr Wythnos diwethaf gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru er mwyn disgrifio effaith arbennig y rheolau caffael ar y sector wirfoddol.

    Dywedodd Ms Evans,

    “Dylai deddfwriaeth UE fod yn weithredol i helpu awdurdodau lleol hybu dulliau caffael cynaliadwy. Eglurodd y WCVA heddiw sut mae’r sustem bresennol yn ffafrio busnesau mawrion. Gan fod 98% o fusnesau yng Nghymru yn fach a chanolig o ran maint, mae’n un o fy mlaenoriaethau i sicrhau ein bod yn gweld y newidiadau angenrheidiol.

    Parhaodd Ms Evans,

    “Rhaid i bolisi caffael cyhoeddus gael ei wneud yn fwy cynaliadwy a chymdeithasol flaengar. Un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy hyrwyddo’r defnydd o gynnyrch lleol a chadwyni cyflenwi byrion. Ar hyn o bryd, cafodd tua 50% o nwyddau a gwasanaethau a brynwyd gan y sector gyhoeddus Gymreig eu caffael o gyflenwyr a leolir yng Nghymru. Mae Plaid Cymru’n awyddus i weld hyn yn cynyddu i 75% er mwyn cefnogi diwydiannau lleol cymaint â phosib. Rhaid i ni sicrhau y daw hi’n arferol i brynu’n lleol - er mwyn cefnogi economi Cymru, gwarchod swyddi Cymreig ac er lles yr amgylchedd.”

    Ychwanegodd Ms Evans,

    "Pwysleisiodd yr elusennau a gynrychiolwyd gan y WCVA yr angen am hyblygrwydd. Dyna neges arall y byddaf yn ei hyrwyddo o fewn fy ngrwp a’r Senedd."

    Ychwanegodd Alun Ffred Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi,

    “Mae yna angen gwirioneddol i newid y rheolau er mwyn creu cystadleuaeth deg yng nghaffael cyhoeddus rhwng busnesau bach a chanolig eu maint a chwmnïau mawrion sy’n gweithredu ar hyd y Deyrnas Gyfunol. Lawer yn rhy aml, bydd cwmnïau mawrion yn ennill cytundeb, cymryd yr elw ac yna is-gontractio’r gwaith ar elw bach iawn i gwmnïau lleol. Mae angen cymalau cymdeithasol yn ystod y cyfnodau anodd hyn er mwyn cefnogi’r economi leol.”

    Diwedd.

    Photo: Jill Evans