Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu galwadau a wnaed gan Senedd Ewrop i symleiddio rheolau ar gaffael cyhoeddus i’w gwneud hi’n haws fusnesau bach a chanolig eu maint i ennill cytundebau sector cyhoeddus.
Bu Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio cyn dyfodiad cyfraith UE ym mis Rhagfyr i adolygu rheolau caffael cyhoeddus. Mae busnesau llai yn dueddol o ennill cyfran lai o gytundebau cyhoeddus nac mae eu maint economaidd yn awgrymu y dylent, felly mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn dymuno newid y rheolau.
Mae mwy na £4 biliwn yn cael ei wario gan y sector cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn felly mae yna botensial mawr ar gyfer budd economaidd a chymdeithasol pe bai’r sustem yn cael ei symleiddio.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Jill Evans ASE,
"Mae nifer o fusnesau bychain yn ei chael hi’n anodd yn yr hinsawdd economaidd anodd iawn yma. Byddai ei gwneud hi’n haws iddyn nhw i gystadlu am gytundebau sector cyhoeddus yn hwb enfawr, ac yn helpu gwarchod swyddi mewn cymunedau lleol. Rydym yn siarad am fwy na £4 biliwn yn cael ei wario gan y sector cyhoeddus bob blwyddyn.
"Gwn fod ffatri Remploy yn y Rhondda, er enghraifft, wedi dweud y gellir sicrhau eu dyfodol gyda dim ond un cytundeb TG yr awdurdod lleol.
"Gall y broses o gynnig am waith sector cyhoeddus fod yn ddigalon o gymhleth a chostus ac mae hyn yn peri i gwmnïau llai ddechrau gydag anfantais.
"Dylai ceisiadau am gytundebau gael eu barnu ar feini prawf economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn hytrach na chwilio am y fargen rataf.
"Bydd cyfreithiau caffael Ewropeaidd yn cael eu hadolygu ar ddiwedd y flwyddyn hon. Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn fod angen eu symleiddio. Gallai pethau gael eu gwneud yn haws a mwy tryloyw drwy fabwysiadu proses gwneud cais a thendro electronig. Dylid cymryd costau cylch bywyd cyfan i ystyriaeth hefyd.
"Mae’r system sydd gyda ni ar hyn o bryd yn peri i gwmnïau llai wynebu anfantais ac mae’n rhaid i hyn newid. Mae yna botensial anferth i ddefnyddio gwario cyhoeddus i gefnogi busnesau lleol a swyddi. Mae’r ffaith nad yw llywodraeth Cymru yn peri i hyn ddigwydd ar gyfer busnesau Cymreig yn rhywbeth i’w ddifaru."
Diwedd.