• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Plaid Cymru’n gosod y cwestiwn ar annibyniaeth i Hillary Clinton
    Mawrth 9fed 2009

    Mae Sara Medi Jones, o Ynys Môn, sydd yn gweithio i Jill Evans ASE ym Mrwsel, wedi holi Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton ynglyn â'r cwestiwn o annibyniaeth i Gymru, yr Alban ac i genhedloedd Ewropeaidd eraill.

    Gofynnwyd y cwestiwn gan Sara Medi, sydd yn 24 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangefni, mewn cyfarfod a ddisgrifiwyd fel un tebyg i’r math a gynhaliwyd yn “neuadd y dref” yn Senedd Ewrop. Dywedodd:

    “Roedd cwrdd â Hillary Clinton yn brofiad bythgofiadwy. Roedd hi’n garismatig ac yn awyddus i sicrhau’r gynulleidfa ynglyn â’r berthynas barhaus rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau.

    “Rwy’n credu ei fod yn bwysig i sicrhau cefnogaeth i’n hachos ymhlith gwledydd eraill, ac felly fe ofynnais iddi a oedd hi’n cefnogi ymreolaeth gynyddol ac annibyniaeth yn y pen draw i genhedloedd Ewropeaidd fel Cymru, yr Alban a Chatalwnia. Atebodd gan ddweud na fyddai hi’n meiddio ymyrryd gyda pholisïau mewnol yr Undeb Ewropeaidd.

    “Rwy’n siomedig na wnaeth hi ateb y cwestiwn gan nad yw achos annibyniaeth Cymru’n ymwneud â gwleidyddiaeth fewnol yn unig - fel yr hawliodd Mrs Clinton - ond yn achos o wleidyddiaeth ryngwladol.”

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    "Dyw e ddim yn fy synnu na allai’r Ysgrifennydd Gwladol Clinton roi ei barn ar gwestiynau ynglyn ag annibyniaeth, o ystyried ei sefyllfa. Fodd bynnag, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn defnyddio pob cyfle i roi llwyfan rhyngwladol i’r cwestiwn o annibyniaeth i Gymru."

    Diwedd.

    NODYN:

    Mae Sara Medi Jones wedi gweithio dros Jill Evans ASE ers Ionawr, 2008, ac roedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Leeds.

    Ffilm: YMA.

    Ffoto: Jill Evans