Mae Jill Evans ASE wedi sicrhau cefnogaeth heddiw oddi wrth gyd aelodau ar gyfer gwelliannau pwysig yn Strategaeth Lles Anifeiliaid Senedd Ewrop. Wrth siarad ar ôl y bleidlais ym Mhwyllgor Amaeth y Senedd heddiw, dywedodd Ms Evans:
"Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwario €150 miliwn y flwyddyn ar les anifeiliaid, ac eto mae safonau’n parhau i beidio â bod yn ddigon da. Un o’r prif faterion yw’r problemau gyda gorfodi rheolau presennol. Clywais gan hen ffermwr ym Mhen-y-bont yr wythnos ddiwethaf ei fod mewn perygl o golli allan gan ei fod wedi cydymffurfio â rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar wyau o gewyll batri ond mae 13 o wledydd yn yr UE heb wneud. Mae’r strategaeth a fabwysiadwyd heddiw yn cynnig sefydlu gwell system ar draws yr UE i wirio a yw gwledydd ar y trywydd iawn i gwrdd â llinellau terfyn.
"Rwyf hefyd wedi clywed gan ffermwyr sydd yn bryderus ynglyn â cholli allan i fewnforion rhad o du allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae strategaeth heddiw yn annog bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cynnwys mewn cytundebau masnach. Dylai anifeiliaid a fewnforiwyd fod wedi cael eu magu i safonau cyfartal â rhai Ewropeaidd.
Parhaodd Jill Evans ASE,
"Fodd bynnag mae llawer o bethau cadarnhaol eraill yn yr adroddiad sy’n destun llawenydd i ni i gyd. Mae’r strategaeth yn cynnig gwell labelu a gwell amodau trafnidiaeth anifeiliaid. Roedd fy ngwelliannau ar sicrhau annibyniaeth y staff arolygu lladd-dai a chadw llinell derfyn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer profi ar anifeiliaid hefyd yn llwyddiannus.
"Er bod lles anifeiliaid wedi gwella’n fawr yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae yna lawer mwy i’w wneud. Gobeithio bydd sesiwn lawn y Senedd fis nesaf yn cymeradwyo’r adroddiad hwn fel y gallwn ddechrau ar y gwaith hwnnw."
Diwedd