• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Jill Evans ASE yn gweld llwyddiant Gwlypdiroedd Casnewydd
    Medi 19eg 2011

    Daeth Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, i ymweld â Gwlypdiroedd Casnewydd ar Ddydd Gwener, Medi 16, i gwrdd â staff a gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol y Gymdeithas Frenhinol dros Amddiffyn Adar (yr RSPB).

    Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac yn cynnal amrywiaeth gyfan o rywogaethau fel y rhostog gynffon ddu, y gambig, y cornchwiglen, y pibydd goesgoch a’r titw barfog. Cyngor Cefn Gwlad Cymru sydd yn berchen ar y Warchodfa ac yn ei reoli hefyd. Yn ystod ei hymweliad, bu Jill Evans mor ffodus â chael golwg prin o Gnocell y Coed prinnaf Prydain, sef y delor llwydwyn.

    Dywedodd Lorraine Leicester, Rheolwr Canolfan Gwlyptiroedd Casnewydd, “Roedd yn bleser gan Wlypdiroedd Casnewydd i groesawi Jill Evans ASE ac i dangos ein gwaith iddi sydd wedi gwneud y safle’n gymaint o lwyddiant. Daeth y Delor Llwydwyn allan i’r llwybr o flaen Jill wrth iddi fynd ar daith o amgylch welyau’r gors, fel petai am estyn croeso personol iddi - roedd yn brofiad hudolus.”

    Ymatebodd Jill, "Roeddwn wedi fy nghyffroi gan yr ymweliad, ac rwy’n annog pobl eraill i ddod i weld yr ardal anhygoel yma, sydd ond dafliad carreg o Gasnewydd. Mae wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy tuag at amddiffyn bioamrywiaeth yng Nghymru ac yn Ewrop. Dyna pam mae hi’n hanfodol bod safleoedd cadwraeth fel hyn yn cael eu gwarchod a’u cefnogi’n iawn. Mae rhywogaethau adar, anifail a bywyd gwyllt arall gan gynnwys rhywogaethau morol ar drai - gyda rhai ar gyfradd frawychus o gyflym.

    Er mwyn ceisio rhwystro’r dirywiad hwn, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi sefydlu safleoedd Natura 2000, ac mae gyda ni nawdeg yng Nghymru. Mae’r hyn a gyflawnwyd yng Ngwastadeddau Gwent yn profi bod ymrwymiad a phartneriaethau effeithlon yn gallu gwneud gwir wahaniaeth. Bydd Rhaglen ‘Dyfodol-luniau /Futurescapes RSPB’ yn ehangu ar y gwaith yma, ac mewn ardaloedd eraill o Gymru. Fel aelod newydd o’r mudiad, edrychaf ymlaen at ddilyn ei chynnydd."

    Dywedodd Cellan Michael, Rheolwr Ardal De Cymru ar gyfer RSPB Cymru, “Bydd dyfodol-lun Gwastadeddau Gwent yn ceisio adeiladu ar bartneriaethau sy’n bodoli eisoes, sefydlu partneriaethau newydd, gwneud cynefinoedd mwy hydwyth sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd, a rhoi natur wrth galon yr ymateb i bwysau ar gefn gwlad. Roedd yn wych i allu trafod cadwraeth graddfa tirwedd gyda Jill yng nghalon y dyfodol-lun hwn.”

    Diwedd

    Ffoto: Jill Evans